Abertawe'n arwain prosiect y DU gyfan ar fenywod a chyfiawnder 1100-1750

Mae prosiect newydd a arweinir gan Abertawe yn archwilio llwyddiant menywod yn y system gyfiawnder, ar draws Cymru a rhannu eraill o Brydain ac Iwerddon, rhwng 1100 a 1750.

Gydag ymagwedd arloesol tuag at y pwnc, bydd y tîm yn edrych ar gyfnodau gwahanol ac ar draws ffiniau e.e. menywod Cymreig, Gwyddelig, Albanaidd ac Iddewig yn gweithio mewn llysoedd lle na siaredir eu hiaith gyntaf.  

Mae'r prosiect newydd dderbyn £854,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ac mae wedi'i arwain gan Dr Deborah Youngs o Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae astudiaethau blaenorol o fenywod canoloesol a modern cynnar a'r gyfraith wedi canolbwyntio ar ranbarthau neu awdurdodaeth unigol. Mae achosion o Loegr wedi dominyddu'r maes: os ymchwiliwyd deunyddiau Gwyddelig, Cymreig neu Albanaidd o gwbl, bu ar hyd llinellau cenedlaethol caeth.

600 x 432Mae canolbwynt cymharol i'r prosiect newydd hwn, fodd bynnag, gan edrych ar debygrwydd a gwahaniaethau yn ôl ffiniau cenedlaethol, iaith, ethnigrwydd, hunaniaeth gyffesiadol a statws cymdeithasol. Ym mha gyd-destun cyfreithiol a diwylliannol yr oedd menywod dan anfantais fwyaf neu leiaf? Sut aethant ati i oresgyn y cyfyngiadau hyn, a pha mor llwyddiannus oeddent? Sut newidiodd hyn dros amser?

Bydd y tîm yn edrych ar dystiolaeth o Loegr, Iwerddon, Cymru a'r Alban rhwng 1100 a 1750.  Bu newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol yn y cyfnod hwn yn hanes Prydain ac Iwerddon, pan oedd ffiniau ffisegol, strwythurau gweinyddol a hunaniaeth grefyddol y dalaith yn newid ac yn esblygu.

‌I raddau, darparodd y gyfraith beth cysondeb drwy'r cyfnod, ond golygai cymhlethdod awdurdodaeth orgyffyrddol a chystadleuol; lleol a chanolog, crefyddol a seciwlar; fod gwahaniaethau mawr rhwng llysoedd tebyg mewn rhanbarthau gwahanol.

Bydd adnoddau'r prosiect yn cynnwys cofnodion llysoedd seciwlar ac eglwysi, gan gwmpasu awdurdodaeth sifil, canon a throseddol. Bydd samplau'n amrywio o'r dalaith Eingl-Normanaidd, lle ystyrir menywod Iddewig ochr yn ochr â Christnogion; y wladfa Seisnig yn Iwerddon; llysoedd lleol yng Nghymru a defnyddio'r Gymraeg mewn llysoedd canolog; llysoedd eglwysi yn Lloegr a'r Alban; a menywod yn nhirwedd gyfreithiol amrywiol Ucheldiroedd ac Iseldiroedd yr Alban.


Deborah YoungsMeddai Dr Deborah Youngs (yn y llun) o'r Adran Hanes a'r Clasuron, a Dirprwy Bennaeth Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau,

"Rydym yn hynod falch o ddechrau'r prosiect hwn, sy'n torri tir newydd, ar brofiad menywod yn llysoedd Prydain ac Iwerddon. Hon fydd yr astudiaeth gymharol gyntaf o'i math, a bydd yn caniatáu dealltwriaeth fwy soffistigedig o gyfranogiad menywod yn y broses gyfreithiol yn ystod y cyfnodau canoloesol a modern cynnar."


Meddai'r Athro John Spurr, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau,

"Mae hwn yn brosiect cyffrous a'r ymchwiliad cyntaf i brofiadau menywod o'r gyfraith ar draws Ynysoedd Prydain ac Iwerddon dros fwy na chwe chanrif. Dyma ysgolheictod cydweithiol ac arloesol ar ei orau: rydym yn hynod falch o bawb sy'n rhan o'r prosiect, ac yn edrych ymlaen at eu darganfyddiadau."

Bydd Dr Youngs yn gweithio gyda chyd-ymchwilwyr, sef Dr Garthine Walker o Brifysgol Caerdydd a Dr Alex Shepard o Brifysgol Glasgow.  Mae dau gymrawd ymchwil yn ymwneud â'r prosiect hefyd, yn cynnwys Dr Sparky Booker o Brifysgol Dulyn, a dau fyfyriwr PhD wedi'u hariannu'n llawn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).