Athro o Abertawe'n dringo ar ei bocs sebon i ddadlau achos menywod mewn gwyddoniaeth

Mae Hilary Lappin-Scott, Dirprwy Is-ganghellor ac Athro Microbioleg ym Mhrifysgol Abertawe, wedi bod yn sefyll ar ei bocs sebon - yn llythrennol - i ddadlau achos menywod mewn gwyddoniaeth.

Professor Hilary Lappin-ScottMae'r Athro Lappin-Scott newydd gymryd rhan yn 'Gwyddoniaeth y Bocs Sebon', digwyddiad blynyddol i hyrwyddo gwyddoniaeth i'r cyhoedd.  Mae'r digwyddiad yn troi ardal South Bank Llundain yn ymrysonfa ar gyfer dysgu'r cyhoedd a thrafodaeth wyddonol. Roedd hi ymhlith chwe academydd benywaidd o fri a wahoddwyd i gymryd rhan yn nigwyddiad 2013, trwy sefyll ar eu bocsys sebon i siarad yn angerddol am eu pynciau ac i ateb cwestiynau'r cyhoedd.

"Darllenais negeseuon trydar a blogiau o Wyddoniaeth y Bocs Sebon y llynedd, ac roeddwn i'n meddwl bod y syniad yn hynod o dda! Roeddwn i'n ysu am fod yno, a phenderfynais yn y fan a'r lle y byddwn yn ymgeisio am le yn 2013. Dwi'n teimlo fy mod yn lwcus iawn i gael fy newis," ddywedodd yr Athro Lappin-Scott.  Teitl ei haraith hi ar gyfer y digwyddiad oedd “From gums to bums, bacteria through the body”.

"Roedd yn waith caled dros ben - doeddwn i erioed wedi annerch cynulleidfa felly o'r blaen mewn gofod mawr cyhoeddus - ond roeddwn wrth fy modd, ac roedd yn wych i fod yn rhan o rywbeth mor gadarnhaol. Yn ogystal â chael cyfle i siarad am ficrobioleg, pwnc yr ydw i'n teimlo'n angerddol amdano, mae'r digwyddiad hwn yn bwysig oherwydd ei fod yn dangos gwaith menywod mewn gwyddoniaeth.

"Pan oeddwn i'n ifanc, a phenderfynais fy mod am gael gyrfa ym myd gwyddoniaeth, doedd dim delfrydau ymddwyn i f'ysbrydoli; ac yn hwyrach, pan oeddwn i'n astudio, dim ond un neu ddau o academyddion benywaidd oedd i'w gweld, fel arfer, mewn adran. Mae hynny'n newid bellach, ond mae angen i ni wneud mwy o hyd."

Erbyn hyn, mae'r Athro Lappin-Scott wedi dod yn ddelfryd ymddwyn ei hun, ar ôl iddi fagu teulu tra’r oedd yn dringo'r ysgol yrfa. Roedd yn Llywydd y Gymdeithas Microbioleg Gyffredinol rhwng 2009 a 2012: hi oedd y fenyw gyntaf i ddod yn Llywydd y Gymdeithas ers 65 o flynyddoedd, a'r ail fenyw i gael ei hethol i'r swydd erioed.

Dywedodd hi: "Pan ddechreuais fy ngyrfa'n wyddonydd, penderfynais mai'r ffordd orau i annog mwy o fenywod i ddod yn wyddonwyr oedd trwy fod yn ddelfryd ymddwyn mor gryf â phosibl, gan ddangos bod digon o gyfleoedd i fenywod lwyddo hefyd. Fodd bynnag, mae'r ffordd yr ydym yn colli merched o'r llif talent yn bryder cynyddol i mi; dwi'n teimlo bod angen i fi wneud rhagor, a dwi wedi ymrwymo i wneud rhagor.

"Dwi'n credu ei bod yn elfen fawr o fy swydd, ac yn fraint o'r mwyaf, i fentora gwyddonwyr benywaidd iau. Fi sy'n arwain yn y maes hwn ym Mhrifysgol Abertawe, fel Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a fi sefydlodd yr un rôl yn y Gymdeithas Microbioleg Gyffredinol. Mae'n rhaid i mi sicrhau fy mod yn gwneud gwahaniaeth yn y ddwy rôl hyn, ac mae digwyddiadau megis Gwyddoniaeth y Bocs Sebon yn fy helpu yn hynny o beth."