Bydd y ddarlith gyntaf yng nghyfres newydd darlithoedd cymunedol am ddim 2012-13 a drefnir gan Adran Addysg Barhau Oedolion Prifysgol Abertawe yn cael ei chynnal y mis nesaf.

Siaradwr: Ian Glendenning, yr artist Ffenestr ar Gymru a’r astroffotograffydd

Teitl y ddarlith: Stars, Stones and Waterfalls: Celestial and Terrestrial Photography


Dyddiad:  Dydd Sul 7fed Hydref 2012

Amser: 7.30pm tan 9.15pm

Lleoliad: Eglwys Llan-giwg, Rhyd-y-Fro, ger Pontardawe, Abertawe SA8 4TP

Mynediad: Mae mynediad am ddim, ond gan mai nifer cyfyngedig o seddi sydd ar gael yn y lleoliad archebwch eich lle o flaen llaw i osgoi cael eich siomi (gweler isod am fanylion cyswllt).

Crynodeb o’r ddarlith: Arddangosfa tafluniad data a darlith gyntaf y byd gan yr artist Ffenestr ar Gymru a’r astroffotograffydd Ian Glendenning.


I gadw lle neu am ragor o wybodaeth ffoniwch 01792 602211 neu e-bostiwch: adult.education@abertawe.ac.uk (D.S. ni fydd lleoliad y ddarlith yn derbyn archebion). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace.