Mae Caffi Gwyddoniaeth Abertawe'n cynnig cyfleoedd i unrhyw un ddod i gael gwybod mwy am feysydd newydd, cyffrous, a chyfredol yn y byd gwyddoniaeth. Wedi'i ddylunio i fod yn anffurfiol ac yn hwyl, mae'r caffi fel arfer yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher olaf bob mis yng Nghanolfan Dylan Thomas. Mae mynediad am ddim ac mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7:30pm.

Teitl: Cemeg Golau

Siaradwr: Dr Peter Douglas o Brifysgol Abertawe

Dyddiad: Dydd Mercher 28ain Tachwedd

Amser: 7.30pm

Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Mynediad: Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb

Crynodeb o’r Digwyddiad
Bydd y ddarlith hon, sydd wedi’i noddi ar y cyd gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, yn dangos pwysigrwydd ffotocemeg yn ein byd, yn cynnwys dros ddeg ar hugain arddangosiad, ac wedi’i rhannu’n dair rhan.
(i) Sut y mae golau’n cael ei greu
Mae’r adran hon yn dangos sut y gellir cynhyrchu golau’n drydanol, yn thermol ac yn gemegol, a sut y gellir cynhyrchu golau gweladwy o olau uwchfioled, e.e. fflwroleuedd ffosfforedd.
(ii) Sut y mae golau’n cael ei ddefnyddio heddiw mewn technoleg a bywyd bob dydd
Yn yr adran hon dangosir sut y defnyddir golau mewn technolegau bywyd bob dydd. Mae hyn yn cynnwys defnydd o olau mewn ffotograffiaeth, electroneg, adloniant, plastigau, meddygaeth a diogelwch.
(iii) Sut y gellir defnyddio golau yn y dyfodol i ddatrys dau o’r problemau pwysicaf sy’n wynebu dynolryw e.e. cynhyrchu dŵr glân ac ynni glân
Bydd y ddarlith yn dod i ben gydag arddangosiadau yn dangos ffyrdd y gellir defnyddio golau i buro dŵr sydd wedi’i llygru, a sut y gellir defnyddio glau’r haul fel ffynhonnell ynni ddi-lygredd ddelfrydol drwy ei drosi’n drydan neu’n danwydd cemegol.

Am ragor o wybodaeth: http://www.swansea.ac.uk/science/swanseasciencecafe/, neu e-bostiwch: c.allton@abertawe.ac.uk / e.c.pope@abertawe.ac.uk

Ynglŷn â Chaffi Gwyddoniaeth Cymru:

Bob mis, bydd arbenigwr blaenllaw yn ei faes/maes yn rhoi sgwrs ragarweiniol fer wedi'i dilyn gan sgwrs anffurfiol gyfeillgar. Gallwch gymryd sedd, ymlacio â diod a gwrando neu gymryd rhan yn y drafodaeth a'r ddadl. Mae trefnwyr y Caffi Gwyddoniaeth yn ymrwymedig i hyrwyddo'r gwaith o gysylltu'r cyhoedd â gwyddoniaeth a gwneud gwyddoniaeth yn atebol.

Cynhelir cyfarfodydd Caffi Gwyddoniaeth Cymru mewn gosodiadau hamddenol yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor. Maen nhw fel arfer yn anffurfiol ac yn hygyrch ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Maen nhw fel arfer yn cychwyn â sgwrs fer gan y siaradwr, sy'n wyddonydd neu'n awdur fel arfer, gydag egwyl gyflym ar ôl hynny ac yna rhyw awr o drafod.

Mae pynciau blaenorol wedi cynnwys mater tywyll, yr annwyd cyffredin, Dr Who, y Glec Fawr a therapïau amgen.

Cynhaliwyd y Cafes Scientifiques cyntaf yn y DU yn Leeds yn 1998. O hynny allan tyfodd y caffis yn raddol gan ymledu ar draws y wlad.

Ar hyn o bryd, mae rhyw 40 o gaffis yn cwrdd yn rheolaidd i glywed gwyddonwyr neu awduron gwyddoniaeth yn siarad am eu gwaith ac yn ei drafod â chynulleidfaoedd amrywiol.