Mae myfyrwyr parafeddyg yn mynychu claf ar stretsier yn ystod yr ymarfer.

Mae Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe wedi cynnal ymarferiad hyfforddiant digwyddiad mawr ar gyfer ei myfyrwyr parafeddygaeth yn eu blwyddyn olaf yn ardal y Ddôl ar Gampws Singleton.

Daeth myfyrwyr parafeddygaeth, staff ac aelodau o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) ynghyd ar gyfer yr ymarferiad a oedd yn cynnwys efelychiad gwrthdrawiad traffig ar y ffordd lle cafodd nifer o bobl anafiadau. Crëwyd yr ymarferiad yn ofalus i efelychu sefyllfa go iawn ac anafiadau realistig. Ei nod oedd helpu myfyrwyr parafeddygaeth i ddatblygu eu profiad o frysbennu, cludo a rheoli cleifion yn ystod digwyddiad mawr.

Dywedodd Thomas Hewes, Cyfarwyddwr y Rhaglen BSc mewn Parafeddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe:

"Ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn ymroddedig i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer yr heriau sy'n gysylltiedig â gwaith parafeddygon.  Mae digwyddiadau hyfforddiant gweithredol fel y rhain yn caniatáu i'r myfyrwyr hyfforddi mewn amgylchedd realistig a heriol, lle maent yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr WAST. Mae'r pethau y maent yn eu dysgu o’r ymarferion hyn yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau, dulliau ymateb a pherthnasoedd gwaith yn y dyfodol.

"Rydyn ni'n gwybod bod ymyrryd yn gynnar ac yn effeithiol yn gwella canlyniadau cleifion yn sylweddol, ac mae’r profiad hwn wedi magu hyder ein myfyrwyr i ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau mawr."

Dywedodd Carys Davies, myfyrwraig barafeddyg yn y drydedd flwyddyn am yr ymarfer:

"Rhoddodd y cyfle i ni weithio gyda myfyrwyr eraill yn ogystal â gweithwyr proffesiynol o bob rhan o'r maes parafeddygaeth. Mae hyn wedi datblygu ein sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu, a'n sgiliau clinigol. Bydd hyn yn ein paratoi ar gyfer digwyddiadau mawr os byddwn ni'n cael ein galw arnynt ar ôl i ni gymhwyso."

Dywedodd Deian Thomas, Rheolwr Parodrwydd am Argyfyngau, Gwydnwch a Gweithrediadau  Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae'r senario hyfforddiant hwn wedi cynnig cyfle cyffrous i'n staff WAST a'n hegin barafeddygon brofi eu hymateb i ddigwyddiad mawr sy'n cynnwys nifer o bobl ag anafiadau.

"Er ein bod yn gobeithio na fydd ein staff byth yn cael eu galw i ddigwyddiad o'r math hwn, mae'r ymarferion hyn yn sicrhau bod ein staff yn gwybod beth i'w wneud yn y senario gwaethaf yn ogystal â rhoi cyfle iddynt drafod eu hadborth gwerthfawr yn ystod sesiwn ôl-drafodaeth yr ymarferiad.

Diolch yn fawr i Brifysgol Abertawe am gydlynu'r diwrnod ac edrychwn ymlaen at gynnal rhagor o ymarferion yn y dyfodol."

Rhagwelir y bydd Prifysgol Abertawe'n cynnal ymarferion parafeddygaeth blynyddol i fyfyrwyr parafeddygaeth yn eu blwyddyn olaf.

Ychwanegodd yr Athro Jayne Cutter, Pennaeth yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae ymyrryd yn gynnar ac yn effeithiol yn gwella canlyniadau cleifion yn sylweddol, a bydd y profiad hwn yn magu hyder ein myfyrwyr i ymateb yn effeithiol i ddigwyddiad mawr go iawn. Mae ymarferion hyfforddiant fel y rhain yn hynod fuddiol i'n myfyrwyr wrth iddyn nhw baratoi i fod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y dyfodol. Maen nhw'n mynd law yn llaw â'r cyfleoedd efelychu a dysgu ymdrochol presennol sy'n tanategu holl hyfforddiant ein hymarferwyr gofal iechyd proffesiynol yma yn Abertawe, gan gynnwys nyrsys, meddygon, fferyllwyr, bydwragedd, ymarferwyr adrannau llawdriniaethau a therapyddion galwedigaethol, yn ogystal â pharafeddygon.”

Rhannu'r stori