Rydym yn deall y gall gwneud cais trwy'r system Glirio fod yn gyfnod gofidus i rai, ac y byddech chi eisiau sicrhau bod popeth mewn trefn cyn i chi symud i'ch cartref newydd ym mis Medi a dechrau ar eich taith gyffrous gyda ni.
Cynnig Llety Gwarantedig
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ceisio gwneud pethau mor hawdd â phosibl i chi. Ar gyfer myfyrwyr Clirio, rydym yn cynnig Llety Gwarantedig cyn belled â'ch bod yn gwneud cais am lety cyn Hydref yr 8fed.
Mae gwneud cais yn rhad ac am ddim a'r cynharaf y gwnewch chi gais, y gorau!