Jessica Hyland

Jessica Hyland

Gwlad:
Awstralia
Cwrs:
BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Fy hoff ran o Brifysgol Abertawe yw'r awyr agored! Fel rhywun sydd wedi cael ei magu’n archwilio eangder cefn gwlad Awstralia, mae'n braf bod gan Abertawe rai ardaloedd gwledig a golygfeydd hardd ar gyffiniau'r ddinas.

Er nad yw hyn cystal â'm cartref, mae'n hyfryd cael harddwch naturiol i archwilio gyda'ch ffrindiau. Fel rhywun sy'n hynod brysur gyda hyfforddiant athletau, gwaith ac astudiaethau'r Brifysgol, gall fod yn anodd dod o hyd i amser i ymlacio. Yn fy mhrofiad i, gallwch chi wneud rhywbeth cynhyrchiol a chael hwyl drwy fynd i'r llyfrgell i weithio gyda ffrind yn gyntaf ac yna, fel gwobr, gallwch chi fynd i gaffi/fwyty i fwynhau bwyd blasus! Un o fy hoff leoedd yw Hoogah ac mae'n agos at brif breswylfeydd y myfyrwyr. Mae teithiau diwrnod i Gaerdydd yn llawer o hwyl hefyd ac, os na allwch chi fynd mewn car, gallwch chi bob amser fynd ar y trên. Er gall y tywydd (a'r glaw yn bennaf) fod yn ddiflas weithiau, pan fydd hi'n heulog, mae'r traeth yn brydferth ac mae cynifer o bobl yn cerdded, yn rhedeg ac yn treulio amser ar y traeth, mae'n hyfryd bod yn rhan o'r awyrgylch. Gall fod yn frawychus symud i le hollol newydd a gall gymryd peth amser i chi addasu ond y peth pwysig yw cymryd un cam ar y tro ac mae'r annibyniaeth y byddwch yn ei hennill yn sgîl hyn yn wych!

Beth yw dy hoff beth am dy gwrs?

Fy hoff beth am fy nghwrs yw ei natur amlddisgyblaethol! Doeddwn i ddim yn gwybod o'r blaen bod yna gynifer o lwybrau gwahanol i mi eu harchwilio. Roeddwn i'n meddwl bod Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn cynnwys biomecaneg, ffisioleg a seicoleg chwaraeon gyda'r nod o wella perfformiad athletwr yn unig ac er bod hyn yn rhan fawr o'r maes, mae llawer o bethau eraill y gallwch chi eu harchwilio. Ar hyn o bryd, mae gen i ddiddordeb mawr mewn agweddau iechyd y cyhoedd o Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ond rwy'n dwlu ar bopeth sy'n gysylltiedig â ffisioleg hefyd. Mae modiwlau megis Moeseg Atal dopio, Gwyddor Ymarfer Corff Pediatrig, Seicoleg Chwaraeon a llawer mwy!

Wyt ti'n cymryd rhan mewn tîm/clwb chwaraeon gyda Phrifysgol Abertawe?
Ydw, rwy'n cymryd rhan mewn athletau ac rwyf hefyd wedi bod yn rhan o'r tîm triathlon. O ran athletau, rwyf wedi bod yng nghystadlaethau cynghrair BUCS ym Mhrifysgol Sheffield a Phrifysgol Manceinion i gystadlu gyda'r tîm. Roedd y ddwy daith yn gymaint o hwyl ac, er nad ydw i'n hyfforddi gyda'r tîm yn ystod yr wythnos yn aml (rwy'n cystadlu gyda chlwb arall o Gymru ac mae gen i hyfforddwr gyda'r clwb hwnnw), roeddent bob amser yn groesawgar ac rwyf wedi gwneud atgofion a ffrindiau gwych yn sgîl y ddwy daith. Ymunais i â grŵp triathlon am hwyl oherwydd rwy'n dwlu ar wylio cystadlaethau triathlon ac roeddwn i am gael cyfle i wneud traws-ymarfer i ategu fy rhedeg. Er fy mod i am fynd draw a hyfforddi er hamdden yn unig, roedden nhw'n falch iawn o fy nghroesawu i. Does dim gwahaniaeth a ydych chi'n perfformio ar y lefel orau neu os ydych chi'n ymuno â thîm am hwyl, mae pawb wedi bod yn groesawgar iawn ac mae'n ffordd wych o ddod i adnabod mwy o bobl!

Wnest ti gyflwyno cais drwy Glirio?

Do, ar ôl i mi gadarnhau fy lle gyda phrifysgol arall am bwnc hollol wahanol (Gwyddor Barafeddygol), penderfynodd y brifysgol honno dynnu fy lle yn ôl, er fy mod i'n bodloni'r amodau, oherwydd bod y Brifysgol wedi derbyn gormod o bobl ar gyfer y cwrs. Roeddwn i o dan bwysau mawr oherwydd roedd hi eisoes yn fis Awst ac roeddwn i i fod i symud i Brifysgol mewn ychydig dros fis! Penderfynais i gyflwyno cais i Brifysgol Abertawe drwy glirio ar gyfer pwnc hollol wahanol (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff) i'r un roeddwn i wedi cadarnhau yn y brifysgol arall. Cyflwynais i gais ar-lein ac, os cofiaf yn gywir, ces i neges i gadarnhau fy mod i wedi cael lle ar ôl tua wythnos! Yna, cyflwynais i gais ar gyfer llety a ches i fy newis cyntaf ar gyfer hynny, sy'n wych! Es i i ddiwrnod agored clirio gan obeithio y byddwn i'n hoffi'r Brifysgol oherwydd roeddwn i eisoes wedi cadarnhau fy newis ar ôl i mi gael lle drwy glirio. Cwrddais i â rhai o'm darlithwyr a ches i argraff dda o sut brofiad byddai byw a dysgu ar Gampws y Bae ac ym Mhrifysgol Abertawe.