Mae rhaglen Mwy gan Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe'n dechrau ac yn cloi'r prif ddigwyddiad dros y penwythnos. Bydd yr Ŵyl Wyddoniaeth yn dechrau gydag uchafbwynt cyn y penwythnos yn Taliesin ddydd Gwener, 25 Hydref a fydd yn cynnwys 'The Magical Mr. West' a'i berfformiad cyfareddol, Crafty Fools. Bydd pinacl y penwythnos ar ddydd Llun 28 Hydref yn cynnwys y cyflwynydd teledu adnabyddus, Andy Day, gyda'i sioe, Andy’s Dino Rap. Disgwylir i'r tocynnau werthu'n gyflym, felly rydym yn argymell cadw lle'n gynnar!

Pobl yn y gwastadedd

Darkfield: Flight

Mercher 2 Hydref - Sul 3 Tachwedd, 12 - 8.30pm, o £5, Taliesin, Prifysgol Abertawe

Gan eistedd mewn copi o gorff awyren mewn cynhwysydd llwytho sy’n mesur 40 troedfedd, cynhelir y sioe theatr glywedol unigryw hon mewn tywyllwch llwyr a bydd yn mynd â chi ar daith heb ei hail.
Gan archwilio damcaniaethau aml-fydysawd Mecaneg Cwantwm, mae FLIGHT yn mynd ag aelodau’r gynulleidfa ar daith drwy dau fyd, dau realiti, a dau ganlyniad posib. Mae llawer o fydoedd lle byddai’r awyren hon yn glanio’n ddiogel. Ond, nid ni sy’n gyfrifol am eich taith olaf!

RHYBUDD: Tywyllwch llwyr - efallai na fydd hyn yn addas ar gyfer y rhai hynny sydd â chlawstroffobia.

>
dyn ag aderyn

Crafty Fools: Adventures in Science

Gwener 25 Hydref 6:30pm, o £10, Taliesin, Prifysgol Abertawe

Dathlwch Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe drwy ymuno â Mr West hudol, ar antur anhygoel i fyd gwyddoniaeth!
Gyda chymorth ei ffrind, y frân o’r enw Crowbert, a chasgliad o declynnau rhyfedd, mae Mr West yn mynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau mwyaf cymhleth yn hanes y ddynolryw.
Gallwch ddisgwyl sgiliau, ffolineb, a ffordd astud o roi rhesymeg ar waith gan un hanner y ddeuawd hudol Morgan & West (ITV Penn & Teller: Fool Us).

>
dyn

Eternal You

Sadwrn 26 Hydref 7.30pm, o £5, 15+, Ffilm, Taliesin, Prifysgol Abertawe

Mae Eternal You yn archwilio stori pobl sy'n parhau fel copi digidol ym mhocedi eu hanwyliaid. Gyda chymorth deallusrwydd artiffisial a Data Mawr, daw breuddwyd mor hen â dynolryw ei hun yn fyw: bywyd tragwyddol. Mae'n debyg mai dyma syniad busnes mwya'r oes ddigidol. Ffilm sy'n dilyn busnesau technoleg sy'n defnyddio cyfoeth o ddata i ddatblygu “doppelgangers digidol,” sy'n addo anfarwoli pobl ar y ddaear. Mae'r ffilm yn codi nifer o gwestiynau, fel: A all endid digidol wneud iawn am golli rhywun annwyl? Sut fydd hyn yn effeithio ar y cof dynol? Onid oes gennym yr hawl i anghofio?

>
Andy Day

Andy Day: Andy's Dino Raps

Llun 28 Hydref 11am & 1:30pm, o £10, Taliesin, Prifysgol Abertawe

Daw’r cyflwynydd teledu a’r actor Andy Day i Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe gyda’i sioe deuluol dino-tastig - sioe ryngweithiol, llawn hwyl, sy’n cydio gyda rapiau a chaneuon am ein hoff greaduriaid cynhanesyddol.

>
Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol

Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol

27 Hydref-8 Tachwedd, ar draws dinas Abertawe

Mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn ddathliad blynyddol o ymchwil a gwybodaeth am fodau dynol a chymdeithas. Mae’n gyfle i bawb archwilio’r gwyddorau cymdeithasol, o iechyd, maeth a lles i seicoleg, chwaraeon ac ymarfer corff, trosedd, cydraddoldeb, technoleg, addysg a hunaniaeth, a llawer mwy!

>