Trosolwg
Mae Dr Julianna Faludi yn Uwch-swyddog Ymchwil i Gomisiwn Bevan, Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe.
Mae Dr Faludi yn wyddonydd cymdeithasol a addysgwyd ym Mhrifysgol Milan, Prifysgol Trento (PhD mewn Datblygu Lleol a Globaleiddio) a Phrifysgol Corvinus Budapest (PhD mewn Cymdeithaseg) ac mae ganddi gefndir ac ymagwedd rhyngddisgyblaethol.
O ganlyniad i'w gwaith ar fathau o strategaethau arloesi agored/cydweithredol, yn enwedig agweddau creu gwerth a chreu ystyr ar arloesi dylunio mewn cwmnïau Eidalaidd, cafodd swydd athro cysylltiol yn Adran y Cyfryngau, Marchnata a Chyfathrebu Dylunio, lle bu'n ymgymryd â phrosiectau addysg ac ymchwil sy'n cynnwys busnesau corfforaethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau'r trydydd sector er mwyn creu effaith. Roedd ei dulliau cymhwysol yn y prosiectau hyn yn cynnwys offer ethnograffig, dysgu ac ymchwil drwy wasanaeth, dulliau dylunio, ac ymagwedd astudiaethau achos. Fel mentor, hyfforddwr ac aelod rheithgor ar gyfer busnesau newydd ym maes arloesi cymdeithasol digidol a hacathonau cymdeithasol, roedd ganddi ddiddordeb mewn dal ac arwain effaith gymdeithasol.
Mae gwaith cymdeithasegol Julianna Faludi yn canolbwyntio ar drawsnewid economaidd-gymdeithasol yng nghyd-destun cyfalafiaeth platfformau, yr heriau sy'n ymwneud ag arloesi fel modd a chyfryngwr yn y broses hon o ran systemau cynaliadwy (systemau cynhyrchu a defnyddio a systemau cylchol). Archwiliodd ei gwaith feysydd fel astudiaethau ymfudo, systemau diwylliannol o safbwynt sefydliadol, neu rôl newidiol technoleg mewn cymdeithasau cyfoes.
Mae ei phrofiad proffesiynol blaenorol yn deillio o ddylunio, gwerthuso a gweithredu datblygu rhanbarthol yn ogystal â rhaglenni meithrin sefydliadau a ariannwyd gan yr UE.
Ar wahân i waith ysgolheigaidd, mae hi'n siaradwr gwadd rheolaidd mewn digwyddiadau cyhoeddus, ac yn cyfrannu at lyfrau a chylchgronau. Roedd hi'n drefnydd gwahanol weithdai a chynadleddau proffesiynol, yn ogystal â digwyddiadau cyfathrebu gwyddonol ar gyfer y cyhoedd yn ehangach. Fel awdur ffuglen, cyhoeddodd sawl stori fer a nofel. Mae Dr Faludi yn rhugl mewn Saesneg, Eidaleg, Rwsieg, Ffrangeg a Hwngareg, sy'n rhoi cyfle i ymgysylltu ag ysgrifau academaidd o ddiwylliannau amrywiol i ryngweithio â'r cyhoedd ac ag ysgolheigion o wahanol gefndiroedd.