Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i grwydro'n campysau hardd, gallwch gwrdd â staff academaidd a chael blas ar fywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein rhaglen Diwrnod Agored hyblyg a chyffrous yn rhoi digon o gyfle i chi weld ein cyfleusterau addysgu, dewisiadau llety, cyfleusterau chwaraeon a'r ystod o wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Mae hefyd modd i chi gael cymorth ac arweiniad ar gyllid myfyrwyr a chefnogaeth ariannol.

Ydych chi eisiau holi am fywyd myfyrwyr? Siaradwch gydag un o'n llysgenhadon myfyrwyr a fydd o gwmpas drwy gydol y dydd i ateb eich holl gwestiynau. Holwch ni hefyd am fywyd myfyriwr Cymraeg ar y campws ac am y gefnogaeth a'r clybiau a chymdeithasau Cymraeg sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau ar y campws

Byddwn yn cynnal nifer o Ddiwrnodau Agored Clirio rhwng 16-20 Awst lle bydd modd i chi ymweld â ni a dysgu rhagor am fywyd myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd cyfle i fynd ar daith o amgylch y campws a chyfle i sgwrsio â darlithwyr, myfyrwyr a staff eich adran academaidd. Bydd y ffurflen gofrestru yn agor ar ddiwrnod canlyniadau (Dydd Iau 15 Awst).

Cofrestrwch am ddiweddariadau
Dau fyfyriwr yn cerdded ar gampws y Bae