Rhestr Wirio

Gwelwch isod rhestr wirio i'ch helpu chi wybod popeth sydd angen i chi wneud cyn, yn ystod ac ar ôl eich cynulliad graddio. 

Rhif. Gweithgaredd Dyddiad Cau

Paratoi ar gyfer Graddio

1

Edrychwch ar yr Amserlen graddio i wybod pryd byddwch chi'n graddio. 

Cyn eich cynulliad 

2

Archebwch eich lle yn y cynulliad graddio trwy cwblhau y broses archebu ar-lein ar ôl derbyn e-bost i ddweud fod y broses archebu ar-lein ar agor. 

22 Ebrill - 10 Mai

3

Gwnewch yn siwr fod eich enw swyddogol llawn yn gywir. 

Yn ystod archebu eich lle

4

Rhowch wybod i ni os ydych chi neu eich gwesteion gydag unrhyw ofynion arbennig.  

Yn ystod archebu eich lle
5

Talwch unrhyw ddyledion i'r Brifysgol.

9 Gorffennaf
6

Archebwch eich gwisg academaidd o Ede and Ravenscroft.

10 Gorffennaf
Ar eich Dydd Graddio
7

Cyrraedd Yr LC, Abertawe

O leiaf 1½ awr cyn dechrau eich cynulliad
8

Cofrestru, gwisg a cael tynnu eich llun swyddogol yn Yr LC

Cyrhaeddwch yn gynnar i osgoi aros 

9 Rhowch Yr Arena Abertawe a chymryd eich sedd Bydd drysau yn agor 45 munud cyn amser dechrau'r cynulliad 
10 Dychwelwch eich gŵn i'r LC (mae man dychwelyd gynau ychwanegol wedi'i lleoli ar lawr gwaelod Arena Abertawe os nad ydych wedi trefnu i ffotograffau proffesiynol gael eu tynnu yn yr LC ar ôl y seremoni) Ar ôl eich cynulliad
11

Ar ôl eich seremoni, archebwch eich llun ar y llwyfan yn yr LC.

Unrhyw bryd ar ôl eich cynulliad (saib tua 15 munud ar ôl archebu) 

Ar ôl Graddio
12 Llongyfarchiadau, rydych chi nawr yn aelod awtomatig o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr.
13 Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe dal yma i'ch helpu chi gyda cham nesaf eich gyrfa.
14 Os oes angen tystysgrif newydd neu drawsgrifiad academaidd arall arnoch cysylltwch â myunihub@abertawe.ac.uk 
15 Gadewch i ni wybod unrhyw adborth sydd gennych am eich Dydd Graddio