Trosolwg
Mae Paul yn Uwch-Ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen yn yr Ysgol Reolaeth. Ymunodd â'r Brifysgol ar ôl gyrfa lwyddiannus 20 mlynedd o hyd mewn diwydiant lle bu'n gweithio ar lefelau uwch a gweithredol mewn meddalwedd, uwch-dechnoleg ac ymgynghoriaeth busnes ehangach.
Mae gan Paul ddull gweithredol, cynhwysol o addysgu sy'n cyfuno theori gyfoes ag ymarfer sy'n hyrwyddo datblygiad sgiliau diriaethol a chyflogadwyedd ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae wedi creu ac yn parhau i ddatblygu modiwlau mewn meysydd cyfoes cyffrous yn ymwneud â rheoli a’r maes digidol. Mae’n angerddol am addysgu; yn ddiweddar cafodd ei enwebu ddwywaith ar gyfer yr athro gorau a'r modiwl newydd gorau yn y Brifysgol.