Dwylo'r plentyn yn defnyddio bysellfwrdd gyda graffeg clo clap

Mae Prosiect DRAGON+ Prifysgol Abertawe wedi dathlu ei gyfraniad newydd yn y frwydr yn erbyn meithrin perthynas amhriodol ar-lein mewn digwyddiad arbennig i gyflwyno ei fewnwelediadau ymchwil arloesol a'i awgrymiadau ac i lansio allbynnau craidd y prosiect.

Dros y 15 mis diwethaf, mae Prosiect DRAGON+ wedi arwain menter arloesol, gan gyfuno dadansoddiad ieithyddol soffistigedig o gofnodion sgyrsiau ar-lein yn Saesneg ac yn Sbaeneg lle cafwyd achosion o feithrin perthynas amhriodol â dulliau ymchwil cyfranogol, gan gynnwys mwy na 150 o ymarferwyr o linellau cymorth ar draws 27 o wledydd. Drwy gydweithredu â mwy na 150 o blant ac arbenigwyr sydd â phrofiad bywyd, mae'r prosiect hefyd wedi datgelu gwybodaeth ddigynsail am ddeinameg cyfathrebu rhwng troseddwyr a phlant yn ogystal â dealltwriaeth newydd o ddefnyddio iaith plant yn ystod sgyrsiau meithrin perthynas amhriodol ar-lein.

Meddai arweinydd y prosiect yr Athro Nuria Lorenzo-Dus, o'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu: “Mae meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn fygythiad hollbresennol o hyd, ac mae ystadegau sydd ar gael yn amlygu pa mor frawychus o gyffredin yw hyn, gan ei fod wedi tyfu'n epidemig. Mae twf a chymhlethdod parhaus achosion o feithrin perthynas amhriodol ar-lein yn tanlinellu'r angen dybryd am gamau gweithredu ar y cyd a thalu sylw parhaus at ddatblygu atebion arloesol i ddiogelu plant rhag cam-drin rhywiol ar-lein.

“Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddod â chydweithwyr sy'n mynd i'r afael â'r bygythiad hwn ynghyd.” 

Roedd y digwyddiad yn archwilio canfyddiadau, allbynnau a goblygiadau'r prosiect. Cafodd cyfranogwyr gyfle i glywed gan bartneriaid allweddol a oedd yn hanfodol i lwyddiant y prosiect ac i siarad â hwy. Roedd siaradwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Tech Coalition a Safe Online, sef cyllidwyr cydweithredol DRAGON+, ac sydd wedi bod o gymorth mawr i'r prosiect. 

Meddai Marija Manojlovic, Cyfarwyddwr Gweithredol Safe Online,  “Mae ymchwil arloesol Prifysgol Abertawe i achosion o feithrin perthynas amhriodol ar-lein yn datgelu mewnwelediadau digynsail i ddeinameg rhwng troseddwyr a phlant. I atal cam-drin plant yn rhywiol ar-lein, mae'n hollbwysig deall sut mae meithrin perthynas amhriodol yn gweithio a sut gallwn ni darfu ar y broses hon i atal rhagor o niwed.  

“Drwy ddadansoddi cofnodion sgyrsiau yn Saesneg ac yn Sbaeneg lle cafwyd achosion o feithrin perthynas amhriodol, mae'r astudiaeth yn defnyddio data o linellau cymorth ar draws 27 o wledydd, safbwyntiau plant ac arbenigwyr sydd â phrofiad bywyd ac mae'n darparu mewnwelediadau cyfoethog cyd-destunol i'r mater hwn. Bydd y canfyddiadau hyn yn allweddol wrth lywio'r broses o ddylunio technolegau ymarferol a'u rhoi ar waith er mwyn atal a chanfod gweithredoedd o feithrin perthynas amhriodol ar-lein ar raddfa.

“Nid oes digon o adnoddau ar gyfer ymchwil i'r materion hyn mewn ieithoedd ar wahân i Saesneg, ac mae ymdrechion y Brifysgol i fynd i'r afael â'r bwlch hwn yn sylweddol.” 

Yn ogystal â hynny, rhannodd partneriaid craidd megis Sefydliad Marie Collins, Red PaPaz ac INHOPE eu safbwyntiau ar effaith y prosiect a gwnaethon nhw drafod yr hyn y mae ei angen i sicrhau y gellir cymhwyso allbynnau'r prosiect, eu rhoi ar waith a'u cyflwyno ar raddfa fyd-eang. 

Meddai Victoria Green, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Marie Collins:"Rydym yn falch ein bod ni wedi cynnwys barn pobl sydd â phrofiad bywyd yn yr ymchwil hon. Mae Prosiect DRAGON+ wedi darparu gwybodaeth newydd a hollbwysig i'r iaith sy'n cael ei defnyddio gan droseddwyr i feithrin perthynas amhriodol â phlant ynghyd â'r iaith sy'n cael ei defnyddio gan blant i wrthsefyll pobl sy'n ceisio meithrin perthynas amhriodol â nhw. 

“Mae'r canfyddiadau hyn yn allweddol i ddatblygu atebion technolegol i ganfod ac atal achosion o feithrin perthynas amhriodol â phlant a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein. I sicrhau y gellir cymhwyso'r canfyddiadau hyn at dechnoleg yn y byd go iawn mewn ffordd na fydd yn achosi rhagor o niwed, mae'n hanfodol parhau i gysylltu â'r bobl sydd â phrofiad bywyd." 

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan dîm DRAGON+, lle gwnaeth y tîm ddatgelu glasbrint arloesol DRAGON+ sy'n cynnwys adroddiadau ac adnoddau cynhwysfawr, argymhellion a chyfarwyddiadau ar gyfer rhoi'r cynllun ar waith. Disgwylir i'r mewnwelediadau newydd hyn ddarparu gwybodaeth arloesol i wella'r broses o ddylunio technolegau ymarferol ar gyfer canfod ac atal achosion o feithrin perthynas amhriodol ar-lein a'u rhoi ar waith ar raddfa fyd-eang.

 

Rhannu'r stori