Cysegr Yazidi Mame Reshan yn Shingal, Irac, ar ôl i Islamic State ei dinistrio, credyd: Levi Clancy. Mae treftadaeth ddiwylliannol fel safleoedd cysegredig yn hanfodol ar gyfer hunaniaeth ac iechyd meddwl pobl sydd wedi'u dadleoli.

Cysegr Yazidi Mame Reshan yn Shingal, Irac, ar ôl i Islamic State ei dinistrio, credyd: Levi Clancy. Mae treftadaeth ddiwylliannol fel safleoedd cysegredig yn hanfodol ar gyfer hunaniaeth ac iechyd meddwl pobl sydd wedi'u dadleoli.

Bydd cyfres o ffilmiau byr newydd sy’n cynnwys arbenigwr o Brifysgol Abertawe yn helpu gweithwyr cymorth i ddeall sut gall gwarchod treftadaeth ddiwylliannol yn ystod gwrthdaro fod yn fater dyngarol hollbwysig, gan ei fod yn atgyfnerthu pobl mewn sefyllfaoedd anodd. 

Mae'r Athro Nigel Pollard yn arbenigwr ym maes distryw a gwarchod treftadaeth ddiwylliannol yn ystod gwrthdaro, gan gynnwys adeiladau hanesyddol, safleoedd archeolegol ac amgueddfeydd.

Trafodwyd ei ymchwil i fomio adfeilion Pompeii gan luoedd y Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar raglen ar Channel 5 gyda'r hanesydd Dan Snow.  Mae'r Athro Pollard hefyd wedi cynghori'r lluoedd arfog ar arfer gorau o ran gwarchod treftadaeth ddiwylliannol. 

Cynhyrchwyd y ffilmiau newydd ar gyfer gweithwyr a sefydliadau cymorth sy'n cefnogi pobl yn ystod argyfyngau dyngarol.  Neges graidd y ffilmiau yw y gall gwarchod treftadaeth yn y sefyllfaoedd hyn fod yn elfen hollbwysig o waith dyngarol. 

Nid yw'n golygu blaenoriaethu adeiladau a gwrthrychau gwerthfawr dros bobl, ond mae'n ffordd o atgyfnerthu pobl a chymunedau sy'n wynebu straen anferth. 

Mae enghreifftiau a ddefnyddir yn y ffilmiau'n cynnwys pobl Yazidi yn Iraq a phobl Rohingya yn Burma.  Mae treftadaeth ddiwylliannol yn bwysig iawn wrth gynnal hunaniaeth ac iechyd meddwl y pobloedd hyn a phobloedd eraill sydd wedi'u dadleoli.

Cynhyrchwyd y ffilmiau gan Blue Shield, sefydliad byd-eang sydd â'r nod o warchod treftadaeth ddiwylliannol mewn sefyllfaoedd argyfwng. Caiff ei ddisgrifio'n aml fel y sefydliad diwylliannol sy'n cyfateb i'r Groes Goch.

Cyflwynir pob ffilm yn y gyfres gan berson gwahanol sy'n gysylltiedig â Blue Shield o bob cwr o'r byd, gan ddangos effaith fyd-eang y mater hollbwysig hwn.  Mae'r Athro Pollard yn cyflwyno un o'r ffilmiau a chyflwynir eraill gan aelodau o Blue Shield o Guatemala a Senegal.

Cynhyrchwyd y ffilmiau gyda chymorth Prifysgol Abertawe drwy grant gan Gyfrif Cyflymu Effaith y Brifysgol gan yr AHRC.

Meddai'r Athro Nigel Pollard:

"Yn y bôn, pobl sydd wrth wraidd treftadaeth ddiwylliannol, nid adeiladau a safleoedd hanesyddol yn unig.  Drwy ei gwarchod, gallwn atgyfnerthu grwpiau sydd dan straen, helpu i leihau gwrthdaro sectyddol ac ailadeiladu cymunedau sydd wedi wynebu rhyfel a dadleoli.

Mae ffilmiau Blue Shield yn esbonio pam mae gwarchod treftadaeth ddiwylliannol yn bwysig i bobl sy'n wynebu argyfwng ac maen nhw'n archwilio pam a sut gallai gael ei chynnwys mewn ymateb dyngarol.

Mae gan sefydliadau cymorth rôl sydd wedi'i diffinio'n ofalus iawn.  Ein neges ni yw nad yw gwarchod treftadaeth ddiwylliannol yn perthyn i gategori gwahanol o weithgarwch mewn llawer o sefyllfaoedd argyfwng, ond gall fod yn rhan hanfodol o'r rôl ddyngarol honno."   

Roedd llyfr yr Athro Pollard, Bombing Pompeii: World Heritage and Military Necessity, yn destun rhaglen ddogfen Channel 5 'Pompeii: the Discovery with Dan Snow', a ffilm ddogfen National Geographic/Windfall Films 'Bombing Pompeii'.

Mae ei ymchwil yn Pompeii yn cynnwys astudiaeth achos ymarferol o fywyd go iawn o arfer da a gwael pan ddaw lluoedd arfog ar draws amgueddfa, gan amlygu materion sy'n parhau'n bwysig heddiw ar gyfer personél milwrol.

Oherwydd ei arbenigedd, mae'n cael ceisiadau mynych i gynghori a helpu i hyfforddi personél milwrol heddiw.  Mae'r rhain yn cynnwys Uned Gwarchod Eiddo Diwylliannol y DU, sef olynwyr 'Monuments Men' yr ail ryfel byd, a oedd yn destun y ffilm o'r un enw gyda George Clooney.  Mae hefyd wedi cynghori ceidwaid heddwch sy’n cael eu hyfforddi yn Ysgol Hyfforddiant y Cenhedloedd Unedig yn Iwerddon.

Gwaith ymchwil presennol yr Athro Pollard yw prosiect o'r enw 'Allied Soldiers as Cultural Tourists in Wartime Italy' a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme.  Gan ddefnyddio cofiannau, dyddiaduron, llythyrau a ffotograffau o'r archifau, mae'n archwilio ymatebion personél milwrol i safleoedd treftadaeth, megis Pompeii, Florence a Rhufain, a sut y dylanwadwyd ar y rhain gan ffactorau megis dosbarth, addysg, rhyw a chenedligrwydd.

Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu - Prifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori