Mae Prifysgol Abertawe'n rhan o brosiect gefeillio CutCancer newydd sy'n ceisio cryfhau a gwella galluedd ymchwil ac arloesi a rhagoriaeth cydlynydd y prosiect, y Sefydliad Bioleg Cenedlaethol (NIB) yn Slofenia.
Bydd Prifysgol Abertawe, ynghyd â Phrifysgol Stockholm yn Sweden a VU Medical Center Amsterdam yn yr Iseldiroedd, yn rhannu eu harbenigedd penodol ac ategol â’r NIB drwy'r proisect Horizon Ewrop newydd sy'n werth €1,197,550 dros dair blynedd. Bydd yn dechrau ym mis Ionawr 2023.
Bydd CutCancer yn canolbwyntio ar rannu arbenigedd yn yr ymagweddau profi o'r radd flaenaf at hyrwyddo ymchwil flaenllaw ym maes ymchwil canser cyn-glinigol. Drwy ddarparu hyfforddiant, gweminarau, gweithdai, ysgolion haf a chyfnewid yr arferion gorau, nod y prosiect yw ehangu gallu ymchwil ac arloesi’r NIB.
Meddai'r Athro Shareen Doak, Athro Genotocsicoleg a Chanser yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac yn arweinydd pecyn gwaith ar brosiect CutCancer:
"Bydd rhannu gwybodaeth ac isadeiledd yn y ffordd hon drwy brosiect CutCancer yn torri'r ffiniau mewn ymchwil ar draws cymdeithasau ac yn hwyluso cymuned wyddonol fwy byd-eang. Rydym yn gobeithio y bydd y partneriaethau y byddwn yn eu datblygu yn ystod y prosiect hwn yn ddechreuad perthynas gydweithredol hirdymor rhwng yr holl Brifysgolion sy'n rhan o CutCancer, i roi ymagweddau trawsnewidiol ar waith mewn ymchwil canser.”
Meddai’r Athro Cysylltiol Dr Bojana Žegura, Sefydliad Bioleg Cenedlaethol, Slofenia:
"Mae timau ymchwil o Sefydliad Bioleg Cenedlaethol (NIB) Slofenia a Phrifysgol Abertawe yn y DU, wedi cydweithio'n anffurfiol i feithrin rhoi'r ymchwil ar waith a mynd y tu hwnt i'r radd flaenaf.Ffenestr gyfle oedd yr alwad am efeillio a bellach mae’r prosiect Gefeillio er Rhagoriaeth i ddatblygu ymchwil yn strategol ym maes carsinogenesis a chanser (CutCancer) yn gyfle i'w ffurfioli.Mae cyfleoedd am gydweithio ffurfiol ymysg timau ymchwil yn brin, felly mae pwysigrwydd y cydweithio hwn yn hollbwysig ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.Rydym yn rhagweld cyfnewid cydweithwyr a myfyrwyr ond hefyd drosglwyddo gwybodaeth a chyflymu effaith cydweithio rhwng timau.
"Yn CutCancer, bydd y cydweithio'n galluogi gweithredu ymagweddau a dulliau o'r radd flaenaf ym maes ymchwil canser 3D.Gwneir hyn drwy drosglwyddo gwybodaeth, cyfnewid arferion gorau a chyfleoedd hyfforddiant i wyddonwyr.Yn ogystal, bydd y cydweithio'n cryfhau y galluoedd rheoli ymchwil a gweinyddol, gan gynnwys y Swyddfa Trosglwyddo Technoleg, y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus, y Llyfrgell a'r Swyddfa Adnoddau Dynol.Yn gyffredinol, bydd y cydweithio'n gwella rhagoriaeth yr NIB yn sylweddol ar lefel ranbarthol a rhyngwladol.Serch hynny, bydd y prosiect yn hybu rhagoriaeth yn y ddau sefydliad."