Dyddiad cau: 22 Mai 2024

Gwybodaeth Allweddol

Ysgoloriaeth PhD wedi'i hariannu'n llawn: Ymchwiliad i dechnoleg fodern mewn cymhorthion clyw: manteision hidlo gofodol deuglust (beamforming binaural) i glyw gofodol

Darparwyr cyllid: Prifysgol Abertawe

Meysydd pwnc: Awdioleg

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • Gorffennaf 2025 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Mehefin) 

Goruchwylwyr: 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Gwyddor Iechyd

Dull Astudio: Amser llawn 

Disgrifiad o'r prosiect: 

Mae colli clyw yn gyffredin yn y DU, gydag un o bob pump o’r boblogaeth yn byw gyda rhyw fath o nam ar y clyw. Mae cymhorthion clyw (CC) yn darparu ateb rhannol i'r broblem, ond mae perfformiad yr CC pan fydd y gwisgwr mewn amgylchedd swnllyd yn aml yn is na'r disgwyl, oherwydd cymhareb signal-i-sŵn wael (SNR). 

Un o'r strategaethau gorau a ddefnyddir ar gyfer gwella'r SNR yw meicroffon cyfeiriadol (DM), sy'n darparu llai o sensitifrwydd ar gyfer synau o'r tu ôl ac i ochr y gwrandäwr. Mae datblygiadau modern wedi arwain at ddau CC yn gallu cyfathrebu â'i gilydd a gwella'r sensitifrwydd cyfeiriadol hwn (cyfeirir ato fel beamforming binaural, BB). Mewn lleoliadau labordy mae BB yn datgelu budd sylweddol o ran deall lleferydd mewn sŵn, ond nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y canlyniadau a adroddir gan gleifion.Pam mae anghysondeb rhwng y ddau fesur hyn ar berfformiad BB a sut y gall hyn lywio dyluniad dyfeisiau/meddalwedd? Trwy efelychu (clustffonau) a dulliau mwy realistig (uchelseinyddion), bydd mesurau o berfformiad clyw gofodol defnyddwyr CC, gan ddefnyddio gwahanol leoliadau DM, yn cael eu hymchwilio. Mae hyn yn rhoi gwell gwybodaeth am rwystrau i fuddion BB ac yn targedu perfformiad gwell defnyddwyr CC mewn amgylcheddau gwrando cymhleth. 

Cymhwyster

Mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd Baglor y DU ac o leiaf anrhydedd ail ddosbarth uwch neu radd Baglor dramor yr ystyrir ei bod yn gyfwerth ag anrhydedd y DU (gan UK ECCTIS) a rhaid eu bod wedi ennill gradd sy'n cyfateb i anrhydedd ail ddosbarth uwch y DU a gradd meistr. Os wyt ti'n gymwys i gyflwyno cais am ysgoloriaeth ond nid oes gennyt radd yn y DU, gelli di wirio dy ofynion mynediad cymaradwy (gweler cymwysterau penodol i wledydd). Sylwer bod angen iti ddarparu tystiolaeth o'th hyfedredd Iaith Saesneg.  

Fel arall, caiff ymgeiswyr â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf o’r DU (neu radd gyfatebol o’r tu allan i’r DU fel y’i diffinnir gan Brifysgol Abertawe) nad oes ganddynt radd meistr eu hystyried fesul achos. 

Mae'r ysgoloriaeth hon ar agor i ymgeiswyr o unrhyw genedligrwydd.

Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt.

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth yn talu cost lawn ffioedd dysgu'r a chyflog blynyddol o £18,622.

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd. 

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Gwyddor Iechyd / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Gorffennaf

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS622 - Spatial Hearing'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe:  

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect.
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol)

Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â Dr Barry Bardsley (B.Bardsley@abertawe.ac.uk).

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.