A ydych chi'n barod am eich ffioedd dysgu?

Mae pecynnau cymorth ariannu gwahanol ar gael i ddysgwyr sydd am astudio’n llawn-amser neu'n rhan-amser. Dewch o hyd i ba gymorth ariannol yr ydych yn gymwys i'w dderbyn cyn i chi ymrestru a gwnewch gais o fewn y dyddiadau cau a osodir i sicrhau bod eich cymorth ariannol yn ei le erbyn i chi gyrraedd.

Mae'r hyn yr ydych yn gymwys i'w dderbyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, ble yr ydych yn byw, beth yr ydych yn ei astudio, ac ar ba lefel.

Newidiadau pwysig i ffioedd dysgu'r DU (Cartref) o 2025/26

Yn ddiweddar, cynyddodd Llywodraeth Cymru y cap ffioedd dysgu yng Nghymru o £9000 i £9250 gan alinio ffioedd a'r rhai mewn gwledydd eraill yn y DU

Yn dilyn cymeradwyaeth, bydd Prifysgol Abertawe'n addasu'r ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr newydd o 2025/26.

Bydd myfyrwyr newydd o'r DU sydd i fod i ymuno a ni ym mlwyddyn academaidd 2024/25 yn gorfod talu £9000. Bydd yr holl flynyddoedd astudio dilynol yn £9250 gan ddod a ni yn unol â phrifysgolion ledled y DU.

Costau Ffioedd Dysgu 2024/25

Gwaith Cymdeithasol, Meddygaeth i Raddedigion, Nyrsio a Diplomâu i Raddedigion

  • Gwaith Cymdeithasol a Meddygaeth i Raddedigion: Bydd y Ffioedd Dysgu yn £9000.
  • Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwyddor Barafeddygol a chyrsiau Gofal Iechyd: Os ydych yn derbyn cyllid gan y GIG byddant yn eu talu eich ffioedd yn llawn. Os nad ydych yn derbyn cyllid gan y GIG bydd y Ffioedd Dysgu yn £9000.

O 2025/26 bydd y Ffioedd Dysgu yn £9250 y flwyddyn (neu amrywio) ond gellir ei gynyddu yn y blynyddoedd dilynol o astudio yn ôl swm chwyddiant a bennir gan Lywodraeth Cymru.

I gael gwybodaeth ariannu ychwanegol am y rhaglenni arbenigol uchod ewch i’n tudalennau Benthyciadau a Grantiau i Fyfyrwyr ar y we.

Gwybodaeth Bellach