Siaradwr - Keir Giles
Ystafell 221 Y Techniwm Digidol, 18 Mehefin 2024: 12:00 – 14:00
Ble nesaf i Rwsia?
Mae'r fath o ddyfodol sydd yn yr arfaeth ar gyfer Ewrop yn dibynnu ar ganlyniad y gwrthdaro yn Wcráin. Ond mae'r un peth yn wir hefyd am hynt Rwsia ei hun yn y dyfodol. Mae unrhyw obaith o newid gwleidyddol neu gymdeithasol yn Rwsia yn y tymor agos yn dibynnu ar sut y bydd y wlad yn ymateb i fuddugoliaeth neu gael ei threchu.
Yn y sgwrs hon, bydd Keir Giles yn ystyried y ffactorau amrywiol ac anhysbys sy'n dibynnu ar hynt y rhyfel yn y dyfodol, a hefyd y ffactorau cyson a gwrthrychol a fydd yn cyfyngu ar lwybrau posibl datblygiad Rwsia yn y dyfodol. Bydd yn trafod y posibiliadau ar gyfer cynnwrf gwleidyddol yn Rwsia ar ôl cael ei threchu, a'r terfynau i'r posibiliadau hynny sy'n deillio o lywodraeth bresennol Rwsia a natur hanes a chymdeithas Rwsia.
Gan dynnu ar ddegawdau o astudio Rwsia a rhagfynegi ei hynt yn gywir, bydd yn ymdrin â'r sefyllfa bresennol fel rhan o gylch ehangach hanes ac yn ystyried yr hyn y gall hynny ei ddweud – a’r hyn na all ei ddweud - wrthym am yr hyn i'w ddisgwyl nesaf gan Moscow.
Bywgraffiad:
Mae Keir Giles yn Uwch-gymrawd Ymgynghorol gyda Rhaglen Rwsia ac Ewrasia y Sefydliad Brenhinol dros Faterion Rhyngwladol (Chatham House) yn Llundain. Mae hefyd yn gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Astudiaethau Gwrthdaro (CSRC), sef grŵp o arbenigwyr pwnc mewn diogelwch Ewrasia, wedi'i leoli yn Swydd Northampton, y DU.
Ar ôl un o'r gyrfaoedd byrraf a gofnodwyd yn y Llu Awyr Brenhinol, ac yna teithio yn eang yn yr Undeb Sofietaidd wrth astudio am ei radd gyntaf mewn Rwseg, cydsefydlodd Keir y cwmni cyntaf a oedd yn rhoi cyfle i beilotiaid y Gorllewin hedfan awyrennau milwrol Sofietaidd, gan weithredu o safleoedd ger Moscow ac yn Crimea. Aeth ymlaen i ysgrifennu am sawl blwyddyn fel gohebydd Rwsia ar gyfer ystod o gyfnodolion hedfanaeth filwrol a sifil. Roedd ei swyddi eraill wrth fyw yn Rwsia yn cynnwys gweithio gydag Ernst Young a Gwasanaeth Monitro'r BBC (BBCM).
Wrth weithio i BBCM, roedd yn rhan o dîm dau ddyn a sefydlodd y Swyddfa Fonitro gyntaf yn yr hen Undeb Sofietaidd, ym Moscow. Yn y cyfamser, parhaodd i arbenigo ym maes milwrol a hedfanaeth Rwsia, gan arwain at secondiad o BBCM i Ganolfan Ymchwil Astudiaethau Gwrthdaro (CSRC) Academi Amddiffyn y DU yn 2005. Yn yr Academi Amddiffyn, ysgrifennodd a chynghorodd Keir ar gyfer cwsmeriaid llywodraeth y DU a rhyngwladol ar ffactorau dynol sy'n effeithio ar faterion milwrol, amddiffyn a diogelwch Rwsia, strategaeth ac athrawiaeth Rwsia, barn Rwsia ar seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth, a chysylltiadau Rwsia â'i chymdogion agosaf yng ngogledd Ewrop.
Mae Keir bellach yn goruchwylio rhaglen ymchwil a chyhoeddiadau'r CSRC annibynnol, newydd, wrth barhau i ysgrifennu a chyhoeddi am ei faes arbenigol, sef ymagweddau Rwsia at ryfela confensiynol, seiber a gwybodaeth. Mae'n awdur astudiaethau arloesol ar ddamcaniaeth, athrawiaeth a strwythurau Rwsia ar gyfer cymryd rhan mewn gwrthdaro gwybodaeth a seiber. Mae hyn yn cynnwys "Moscow Rules: What Drives Russia to Confront the West" (Brookings, Ionawr 2019), and "Russia's War on Everybody" (Bloomsbury, 2022). Y tu allan i'r DU, mae Keir Giles wedi cyhoeddi a darparu cyngor, dadansoddiad ac arbenigedd drwy Goleg Amddiffyn NATO, nifer o Ganolfannau Rhagoriaeth NATO, Ymchwil i Amddiffyn a Datblygu Canada, Coleg Rhyfel Byddin yr Unol Daleithiau, Coleg Rhyfel Llynges yr Unol Daleithiau, Asiantaeth Ymchwil i Amddiffyn Sweden, Prifysgolion Amddiffyn Cenedlaethol Portiwgal ac Wcráin ac eraill. Mae ei gyhoeddiadau ar gael yn https://conflictstudies.academia.edu/KeirGiles
Darperir arlwyo.
Defnyddiwch y ddolen isod i gofrestru am y sgwrs hon –https://university-swansea.native.fm/event/geopolitical-challenges-research-institute-talk-with-keri-giles/226188
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Kris Stoddard drwy e-bostio K.D.Stoddart@abertawe.ac.uk