PENTREF MYFYRWYR HENDREFOELAN

CAEWYD PENTREF MYFYRWYR HENDREFOELAN AR 30 MEHEFIN 2023

Pentref y Myfyrwyr o`r tu allan preswylwyr a cheir

Mae Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan yn cau ym mis Mehefin 2023, ac ni fyddwch yn gallu cyflwyno ceisiadau amdano wedi hynny.

Byw Ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan

Roedd Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan, a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel 'Y Pentref', mewn ardal breswyl ddwy filltir o Gampws Parc Singleton. Roedd y safle preswyl mawr hwn yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr a oedd yn chwilio am lety oddi ar y campws am gost isel a oedd yn cynnig awyrgylch cymdeithasol. Bu unwaith yn gartref i 1,666 o fyfyrwyr, nifer a gwympodd yn ddiweddarach i 686 gan gynnwys myfyrwyr y flwyddyn gyntaf, israddedigion blynyddoedd eraill ac ôl-raddedigion.

Hanes

Ar ddechrau’r 1960au, yn ystod cyfnod cynharach o sefyllfa ariannol gref, prynodd y Brifysgol y tir lle byddai safle Hendrefoelan yn cael ei adeiladu. Dyma newid mawr o weledigaeth y Brifysgol yn y 1940au o ganolbwyntio ei gweithgareddau ar Gampws Parc Singleton.

Rhwng 1969 a 1970, bu 1,003 o fyfyrwyr yn byw mewn preswylfeydd, ar Gampws Parc Singleton yn bennaf.

Adeiladwyd safle Hendrefoelan mewn tri cham gwahanol rhwng 1971 a 1993, â'r nod o ddarparu llety i niferoedd cynyddol o fyfyrwyr. Mewn gwirionedd, roedd nifer y myfyrwyr wedi cynyddu o 3,916 ym 1988 i 6,364 ym 1992.

Roedd rhan wreiddiol Pentref y Myfyrwyr yn cynnwys 130 o dai a fflatiau ar gyfer 976 o fyfyrwyr.

Roedd yr ardal fwy diweddar, Woodside, yn cynnwys 98 o fflatiau lle'r oedd 686 o fyfyrwyr yn byw.

Gwerthwyd y safle yn 2013 i'r datblygwr St Modwen a dechreuodd gwaith yn y blynyddoedd wedi hynny i ailddatblygu'r safle er mwyn adeiladu ystad tai newydd. Darparwyd llety ychwanegol i 4,000 o fyfyrwyr, o ganlyniad i'r prosiect i ehangu a datblygu'r campws a arweiniodd at agor Campws y Bae ym mis Medi 2015.

Cwblhawyd y broses drosglwyddo ar 30 Mehefin 2023, pan adawodd y preswylwyr olaf yr ardal a oedd yn cael ei adnabod fel Woodside. O ganlyniad i bartneriaeth newydd rhwng y Brifysgol a dau ddarparwr llety wedi'i adeiladu'n arbennig ar gyfer myfyrwyr, gall myfyrwyr ddisgwyl mwynhau llety o safon i fyfyrwyr yng nghanol y ddinas o fis Medi 2023.

TAI YM MHENTREF Y MYFYRWYR

.

Ystafell wely â chelfi yn Hendrefoelan

FFLATIAU WOODSIDE

Roedd Fflatiau Woodside ar safle nesaf at Bentref y Myfyrwyr gwreiddiol, ac yn cynnwys 14 adeilad â 98 o fflatiau hunangynhwysol.

Roedd pob fflat yn cynnwys ystafelloedd sengl safonol i 7 myfyriwr, ynghyd â chegin ac ystafell ymolchi a rennir (un ystafell ymolchi rhwng 4 myfyriwr ar gyfartaledd).

Roedd yr ystafelloedd gwely'n cynnwys desg, cadair, cwpwrdd dillad a silffoedd.

Roedd gan y ceginau gwcer, oergell, rhewgell, microdon, byrddau, cadeiriau a chypyrddau.

Ystafell wely â chelfi yn Hendrefoelan

RHAGOR O WYBODAETH

BYWYD MYFYRWYR

TAITH O'R SAFLE