Gweithdai Ar-lein gan yr Ysgol Reolaeth
Rydym yn mwynhau cynnal gweithdai digidol a gallwn dystio eu bod yn effeithiol iawn wrth ysbrydoli disgyblion i ddilyn y llwybr cywir i Addysg Uwch.
Fel arfer rydym yn cynnal ein gweithdai gan ddefnyddio meddalwedd Gweminar Zoom a gallant gynnwys unrhyw rai o’r isod, er enghraifft:
- Gweithdai wedi’u teilwra a sesiynau wedi’u teilwra gyda’n hacademyddion blaenllaw sy’n addysgu eich cyrsiau: gan gynnwys Busnes, Twristiaeth, Marchnata a Chyfrifeg a Chyllid.
- Cwrdd â myfyrwyr presennol: Sut beth yw bod yn rhan o’r Ysgol Reolaeth flaenllaw a Phrifysgol Abertawe?
- Gweithdy Cyflogadwyedd: sut y mae’r Brifysgol yn gwella’ch rhagolygon gyrfa? Mae’r gweithdy hwn yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer cyflwyno cais am swyddi, sut i ymddwyn mewn cyfweliadau a drafftio CV gan ein Tîm Cyflogadwyedd penodedig mewnol.
- Awgrymiadau gan y Tîm Derbyn: o UCAS i ysgrifennu datganiad personol a mwy.
Er mwyn cael rhagor o ysbrydoliaeth, darllenwch ychydig o enghreifftiau diweddar yma!