Mae'r Ganolfan Ymchwil ac Arloesedd Iechyd a'r Amgylchedd (CHEMRI) yn dwyn ynghyd academyddion ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn astudio a rheoli effeithiau amgylcheddol ar iechyd a llesiant pobl.

Mae'r aelodau'n arbenigo mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys ymchwil ac arloesedd mewn perthynas â gofal iechyd, rheoli'r amgylchedd, modelu data a dadansoddeg ar raddfa fawr, llesiant ac ymddygiad pobl.

Ymhlith meysydd diddordeb allweddol y Ganolfan mae: datblygu datrysiadau amgylcheddol fforddiadwy a'u mabwysiadu; casglu data amgylcheddol a modelu canlyniadau clefydau; strategaethau ac ymyriadau arloesi gofal iechyd; rheoli clefydau anadlol; yr amgylchedd a newid ymddygiad cymdeithas.

Mae'r aelodau gweithio'n agos gyda llywodraeth leol, darparwyr gofal iechyd a sefydliadau allanol eraill i gyflawni gwaith dadansoddi meintiol ac ansoddol er mwyn gwella'r ffordd y caiff iechyd a llesiant eu rheoli.

Hefyd, mae'r aelodau'n cydweithio'n dda ag ysgolion a cholegau eraill yn y brifysgol, yn ogystal â phartneriaid allanol. Mae gan y Ganolfan hefyd gysylltiadau strategol â nifer o gwmnïau sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol, gan gynorthwyo gydag ymdrechion ac allbwn arloesi ac ymchwil a datblygu.