
Fy rôl i yw darparu hyfforddiant i’r staff ar bob agwedd ar weithdrefnau talu a sicrhau eu bod yn gymwys drwy hyfforddiant parhaus.
Rwyf hefyd yn cynllunio ac yn darparu hyfforddiant sgiliau meddwl wedi’i deilwra yn fy adran fy hun ac yn cynnal cynllun datblygu mewnol. Yn ogystal â hyn, rwy’n nodi unrhyw anghenion hyfforddi ac yn cynnal yr hyfforddiant angenrheidiol yn seiliedig ar fy nghanfyddiadau.
Pam y gwnaethoch benderfynu ymuno â’r cynllun mentora?
Pan raddiais i o’r Brifysgol, doeddwn i ddim yn gwybod i ba gyfeiriad i fynd. Rwy’n credu y byddwn i wedi canfod fy llwybr gyrfa yn llawer cyflymach pe bawn i wedi cael cymorth mentor.
Pa gyngor sydd gennych i fyfyrwyr presennol a graddedigion newydd?
Mae profiad yn hollbwysig. Ni allwch ymuno â chynllun i Raddedigion a disgwyl bod yn uwch reolwr o fewn blwyddyn. Mae’n cymryd llawer o waith a meddwl agored, ac mae angen i chi fod yn barod i ddysgu unrhyw fusnes gan ddechrau ar y gwaelod.
Byddwch yn barod i herio, ond byddwch yn barod i ddysgu a datblygu a sylweddoli mai
proses barhaus yw hon. Yn syth ar ôl gadael y brifysgol, mae gennych chi’r wybodaeth academaidd a bydd angen i chi adeiladu ar hynny drwy fagu profiad ym myd gwaith.
Beth yw’r agweddau ar fod yn fentor sy’n rhoi’r mwyaf o foddhad?
Rwyf wrth fy modd yn gallu rhannu fy mhrofiadau a bod yn gefn i rywun sy’n mentro i fyd dychrynllyd y gweithle! Ymunais â’r Cynllun i Raddedigion yma yn Admiral yn ôl yn 2004, a oedd yn ffordd wych o ddod i ddeall meysydd ehangach y busnes. Gan fod fy mentorai’n gwneud cais am gynlluniau i raddedigion ar hyn o bryd, rwy’n teimlo y gallaf gynnig rhywfaint o arweiniad ar hyn, ac mae’n ymddangos ei fod yn gwerthfawrogi hyn yn fawr.
A oes unrhyw rannau o’r cynllun mentora wedi bod yn heriol i chi ac, os felly, beth a pham?
Nac oes, a dweud y gwir. Rwy’n gwneud llawer o hyfforddi ac, i ryw raddau, mae mentora’n teimlo fel chwa o awyr iach am ei fod yn golygu mwy o rannu syniadau a gwybodaeth.
Beth yw eich cynlluniau ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol?
Hoffwn barhau i weithio ym maes Dysgu a Datblygu. Rwy’n mwynhau fy rôl fel Hyfforddwr o hyd, felly alla i ddim dychmygu peidio â gwneud hynny o gwbl! Rwyf am wneud yn siŵr fy mod yn datblygu fy null hyfforddi ac yn ei gadw’n gyfredol ac yn arloesol. Ar hyn o bryd, rwy’n astudio ar gwrs TAR arall drwy waith ym maes Arweinyddiaeth ac Addysg. Gobeithio y bydd y cwrs yn ehangu fy sgiliau a’m gwybodaeth ar gyfer fy rôl ac yn fy ngalluogi i ddarparu hyfforddiant o’r safon uchaf. Hoffwn fod yn arloeswr yn y maes hwn, a dyfeisio modelau newydd sy’n atgyfnerthu effaith hyfforddiant effeithiol.
Beth oedd y cyngor gyrfaol gorau a roddwyd i chi?
Ar ôl gadael y brifysgol, es i i weld cynghorydd gyrfaoedd am fy mod yn teimlo fel pe bawn ar goll braidd. Roeddwn i’n gweithio fel rheolwr cynorthwyol i elusen ar y pryd, ond roedd yn teimlo mor wahanol i’r hyn roeddwn i wedi’i ragweld, roeddwn i’n teimlo fel fy mod wedi methu. Rhoddodd dawelwch meddwl i mi fy mod yn gwneud yn iawn mewn gwirionedd; roedd gen i swydd ac roeddwn i’n magu profiad. Helpodd hyn fi i ymlacio ychydig ac fe es i gyda’r llif gan wneud cais am swyddi roeddwn i wir â diddordeb ynddynt ar yr un pryd.
Ymunais ag Admiral yn y lle cyntaf mewn swydd dros dro ond, yn ystod fy wythnos gyntaf, sylweddolais y gallwn gael gyrfa yma. Rwy’n cofio dweud wrth fy rheolwr yr hoffwn ddod yn hyfforddwr. Dywedodd y gallwn gyflawni hynny os mai dyna roeddwn am ei wneud. O hynny ymlaen, sylweddolais fod gwaith caled yn talu ar ei ganfed ac, ymhen tair blynedd, cyrhaeddais y rôl roeddwn yn dyheu amdani. Dysgais hefyd nad oes rhaid i’ch llwybr fod yn syml; fel hyfforddwr, rwy’n defnyddio’r sgiliau y gwnes i eu meithrin yn ystod fy ymarfer dysgu, felly nid oedd y cyfnod hwnnw’n wastraff amser oherwydd, hebddo, ni fyddwn wedi cyrraedd ble rwyf fi heddiw.
Pa gyflawniad rydych yn fwyaf balch ohono?
Roedd cwblhau fy nghwrs TAR yn gyflawniad gwych am mai hon oedd blwyddyn anoddaf fy mywyd, ond y flwyddyn a roddodd y mwyaf o foddhad. Er na wnaeth y cwrs arwain at swydd addysgu mewn ysgol, rwy’n dal i gredu mai dyna’r peth gorau y gallwn fod wedi’i wneud o ran datblygu fy hun. Pan ymunais â’r cynllun i Raddedigion, roeddwn yn teimlo balchder aruthrol. Roedd y broses gyfweld yn heriol, a hwn oedd yr ail dro i mi wneud cais. Dyma’r peth rwyf fwyaf balch ohono erioed, fwy na thebyg, ynghyd â chael y rôl hyfforddi.
Yn olaf, disgrifiwch eich hun mewn tri gair...
Uchelgeisiol, cadarnhaol a chydwybodol.
Rydym bob amser yn chwilio am fentoriaid a mentoreion i ymuno â’r cynllun. Oes gennych chi ddiddordeb?
Cysylltwch â Thîm Cyflogadwyedd yr Ysgol Reolaeth i gael gwybod mwy