Myfyriwr graddedig

Enw ' r Myfyriwr: Jac Morris

Cwrs: MSc Marchnata Strategol

Ble oedd eich lleoliad gwaith?

The Wave: Dydd Llun
MGB PR: Dydd Mawrth a dydd Mercher
Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe: Dydd Iau a dydd Gwener

Sut beth oedd eich diwrnod gwaith?

The Wave: Gorsaf radio leol ar gyfer ardal Bae Abertawe yw The Wave. Tra oeddwn i yno, cefais gyfle i gysgodi gwahanol aelodau o'r staff, eistedd mewn cyfarfod marchnata a mynd i mewn i fwth recordio.

MGB PR: Creu strategaeth farchnata ar gyfer cleient.

Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe: Ddydd Iau, es i i'r maes ymarfer yn Fairwood lle cefais gwrdd â'r tîm cyfryngau, cysgodi'r newyddiadurwr a oedd yn cyfweld â'r capten, cwrdd â'r chwaraewyr newydd gan mai hwn gan mai hwn oedd y diwrnod ar ôl i'r cyfnod trosglwyddo ddod i ben, mynd am ginio yn y ffreutur gyda'r chwaraewyr ac eistedd yng nghynhadledd y rheolwr i'r wasg.

Ddydd Gwener, roeddwn i yn yr adran farchnata yn y stadiwm, yn cysgodi aelodau gwahanol o'r staff yn edrych ar waith graffeg, manwerthu a diogelu brand, a chefais hefyd gyfle i siarad â'r pennaeth marchnata a'r cyfryngau

Pa fath o gymorth a gawsoch yn ystod y cynllun mentora?

Yn ystod y cynllun mentora, roeddwn yn gwneud cais am swyddi i raddedigion a chefais gyngor ar sut i baratoi, fel gwneud nodyn o gwestiynau i'w gofyn yn hytrach na'u dysgu ar y cof, ymchwilio i ystadegau i siarad amdanynt yn y cyfweliad, a sut i gyflwyno ac arddangos fy mhrofiadau.

Beth oedd yr uchafbwyntiau?

Cael y cyfle i ymweld â maes ymarfer Fairwood, ac edrych yn gwbl gegagored ar y chwaraewyr a'r cyfleusterau.

Pa sgiliau rydych wedi'u meithrin drwy'r cynllun mentora yn eich barn chi?

Sgiliau a thechnegau ar gyfer cyfweliad, yn ogystal ag ymddwyn yn gyfrifol ar ôl dod i gysylltiad â phobl.

A yw'r cyfleoedd a'r profiad a gynigiwyd gan y lleoliad gwaith wedi cael effaith ar agweddau ar eich bywyd y tu hwnt i'r gwaith, er enghraifft, hybu eich hunanhyder neu'ch sgiliau cymdeithasol?

Cefais fy rhoi mewn amgylchedd lle roedd rhaid i mi gwrdd a rhyngweithio â phobl newydd bob dydd am wythnos. Roedd hwn yn brofiad cwbl newydd i mi ac roedd rhaid i mi addasu'n gyflym.

A yw'r profiad gwaith hwn wedi llywio neu newid eich barn ar gyflogaeth ar ôl graddio o gwbl?

Rwyf wedi dysgu sut i feddwl yn yr hirdymor yn hytrach na'r byrdymor, a datblygiad personol yw fy mhrif flaenoriaeth erbyn hyn.

A fyddech yn argymell y cynllun mentora hwn?

Yn bendant. Roedd fy mhrofiad yn wahanol i'r disgwyl, ond mwynheais ef yn fawr a dysgais lawer ohono.

 

Rydym bob amser yn chwilio am fentoriaid a mentoreion i ymuno â’r cynllun. Oes gennych chi ddiddordeb?
Cysylltwch â Thîm Cyflogadwyedd yr Ysgol Reolaeth i gael gwybod mwy