Enw ' r Myfyriwr: Benjamin Ozoude
Cwrs: BSc Economeg
Lleoliad Gwaith: Swyddfa Ystadegau Gwladol
Yn SYG (y Swyddfa Ystadegau Gwladol) nid oedd y fath beth â diwrnod nodweddiadol. Yn fy wythnos gyntaf yn y swyddfa, es i i gyfarfodydd bob dydd, gan gynnwys cynhadledd dadansoddi ymchwil a chyfarfod uchel ei broffil yn Llundain. Roedd athrawon cadeiriol ac arbenigwyr o swyddfeydd eraill yn ymweld â ni, ac roedd hynny’n anhygoel gan fod mwy na 1500 o economegwyr ac ystadegwyr yn gweithio yn yr adeilad; ond, gwelais gryn dipyn o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth rhwng yr is-adrannau – mwy na’r hyn rwyf wedi’i weld mewn unrhyw sefydliad arall rwyf wedi gweithio ynddo.
Roedd pawb y gwnes i gwrdd â nhw yn amyneddgar ac yn gefnogol iawn. Bob tro y gwnes i ryngweithio â’r staff, aethant i’r ymdrech i esbonio’r hyn a oedd yn digwydd, yn enwedig mewn cyfarfodydd lle nad oedd gen i syniad beth oedd yn digwydd ar adegau. Mewn rhai o’r cyfarfodydd, roedd cyfarfodydd y mis blaenorol yn cael eu trafod, ac mewn rhai eraill roedd y prosiect ar gamau olaf y broses ddatblygu felly cefais gwrs carlam ar y misoedd o waith y mae’n ei gymryd i gyflawni rhai prosiectau. Roedd Helen (fy mentor) yn wych - aeth hi â fi i’w holl gyfarfodydd gan fy nghyflwyno i gymaint o bobl nes i mi ddod yn wyneb cyfarwydd.
Amrywiaeth a chymhlethdod y gwaith rydych yn ymwneud ag ef. Mwynheais y cyfarfodydd a lefel deallusrwydd y trafodaethau, ac roeddwn i’n gwerthfawrogi’r gwaith caled a oedd yn cael ei wneud.
Yn anad dim, rwy’n teimlo fy mod wedi meithrin sgiliau rhwydweithio gwell wrth i mi rwydweithio â phawb o’r prif economegydd ac ystadegwyr ar lefel uchel i gyfarwyddwr, staff a myfyrwyr ar leoliad. Cefais sgwrs ddiddorol ag aelod o fwrdd yr IPO (Swyddfa Eiddo Deallusol) yn y tacsi un bore, a llwyddais i gyfrannu gan ddefnyddio’r hyn roeddwn i wedi’i ddeall am eiddo deallusol o fodiwl roeddwn i wedi’i astudio y semester diwethaf. Mae fy sgiliau Microsoft Excel wedi gwella hefyd.
Er bod y profiad yn un byr, rwyf wedi dysgu i fod â meddwl agored a meddylfryd cadarnhaol. Rwyf hefyd wedi dysgu sut i fod yn rhagweithiol a chwilio am unrhyw beth sydd ei angen arnaf.
Nid yw’r wythnos hon o waith wedi newid fy marn ar gyflogaeth ar ôl graddio mewn gwirionedd. Fodd bynnag, rwy’n teimlo’n fwy cyfforddus mewn amgylchedd swyddfa ac yn llai pryderus am gymryd swydd llawn amser. Hoffwn weithio i SYG mewn swydd i raddedigion ond rwy’n agored i’r syniad o astudio ar gyfer gradd meistr o hyd.
Rydym bob amser yn chwilio am fentoriaid a mentoreion i ymuno â’r cynllun. Oes gennych chi ddiddordeb?
Cysylltwch â Thîm Cyflogadwyedd yr Ysgol Reolaeth i gael gwybod mwy