Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn cyflogaeth yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i israddedigion sy'n astudio yn yr Ysgol Reolaeth. Bydd yn eich darparu â phrofiad gwaith hynod werthfawr yn y byd gwaith go iawn a bydd yn eich helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd deniadol iawn ar gyfer swyddi ar ôl i chi raddio.
Mae gan Flwyddyn mewn Diwydiant fanteision di-rif; Ac rydym yn falch y gallwn gynnig cyfleoedd lleoliad fel rhan o'n cyrsiau israddedig.
Mae'n graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni pedair blynedd o hyd, lle byddwch yn treulio'r drydedd flwyddyn mewn diwydiant.
Mae credydau ynghlwm wrth y cynllun lleoliadau 12 mis (sy'n werth 120 o gredydau), a chaiff ei asesu fel rhan o raglen radd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y caiff eich perfformiad yn yr asesiad ac wrth gwblhau'r lleoliad effaith ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel blwyddyn o fodiwlau wedi'u haddysgu.
SYLWER: Os hoffech chi wneud Blwyddyn mewn Diwydiant yn ystod eich trydedd flwyddyn o astudio, rhaid i chi gwblhau a llwyddo yn y modiwl Sgiliau Cyflogadwyedd yn ogystal â llwyddo yn eich astudiaethau cyffredinol. Cysylltwch â'n Tîm Chyflogadwyedd am ragor o wybodaeth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn profiad gwaith ond nid ydych chi am wneud lleoliad mewn diwydiant am flwyddyn, ewch i'n tudalen Chyflogadwyedd.
Beth yw manteision blwyddyn mewn diwydiant?
Gyda mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am raddedigion â phrofiad gwaith yn ogystal â chyflawniad academaidd, mae lleoliadau gwaith yn dod yn fwyfwy pwysig i fyfyrwyr, ac maent hefyd yn cynnig manteision sylweddol.
"MAE GEN I LAWER MWY O HYDER NAWR.
Dw i wedi datblygu fy sgiliau trosglwyddadwy'n fawr iawn, sy'n fy ngalluogi i ddechrau ar fy nghyrfa gam ar y blaen. Drwy flwyddyn lwyddiannus, dw i wedi cael cynnig swydd ôl-raddedig a dw i'n gyffrous iawn."
Lleoliad: Siemens PLC
Swydd: Intern Dyfarnu, Gwobrwyo a Brexit
"Y PENDERFYNIAD GORAU DW I WEDI'I WNEUD YN FY MYWYD.
Roeddwn i wedi gallu dechrau fy ngyrfa'n gadarn a datblygu fy sgiliau ymhellach i lefel hollol newydd. Rydych chi'n edrych yn ôl ac yn teimlo'n falch o'r hyn a wnaethoch chi mewn blwyddyn yn unig o weithio."
Lleoliad: Airbus - Filton, Bryste
Swydd: Interniaeth Caffael, Prynwr – Wing
"CES I BROFIAD YMARFEROL YN SYTH.
Dysgais i nid yn unig am agweddau a chyfrifoldebau technegol i gyflawni swyddogaethau ymgynghorydd AD, ond hefyd nodais i'r sgiliau cyflogadwyedd hanfodol sy'n sylfaenol i'r gweithlu, gan gynnwys gwaith tîm, gweithio mewn amgylchedd prysur iawn a'r angen i fod yn wydn."
Lleoliad: Alerts Logic
Swydd: Intern Gweinyddol AD