Gan Dr Bo Yang a Dr Lucy Minford – darlithwyr mewn Economeg

Wrth i gyfraddau llog fod mor isel am gyhyd, pa bolisïau cyllidol ac ariannol sy’n cefnogi adferiad economaidd? A fydd dyled gyhoeddus uwch yn cael canlyniadau economaidd pwysig mewn gwledydd datblygedig a datblygol? A sut mae ergydau macro-economaidd fel digwyddiad geowleidyddol, technolegau newydd neu bandemig, yn effeithio ar anghydraddoldeb rhwng grwpiau neu ranbarthau gwahanol?

Mae ymchwil i facro-economeg – sef astudio economïau ar y lefel ranbarthol, genedlaethol neu ryngwladol – yn fwy perthnasol nag erioed. Ym maes macro-economeg, rydym yn astudio sut mae economïau’n amrywio wrth ymateb i ddigwyddiadau rhagweladwy ac annisgwyl, yn ogystal â sut maent yn datblygu dros gyfnodau hirach: degawdau neu ganrifoedd hyd yn oed. Mae economi’r byd wedi bod trwy adeg  gythryblus yn ddiweddar, gyda straen o’r sector bancio sy’n gyfyngedig o ran credyd yn lledaenu i’r economi go-iawn, anghydraddoldeb masnach mawr, prisiau olew newidiol a phandemig byd-eang.

Gwnaeth yr argyfwng ariannol byd-eang yn 2008-09 newid y farn gyffredin ym maes macro-economeg ynglŷn â rôl polisïau ariannol a chyllidol mewn twf a sefydlogrwydd economaidd. Yn fwy diweddar, mae’r argyfwng byd-eang yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r cyfyngiadau dilynol mewn gweithgareddau economaidd a achoswyd gan bandemig COVID-19 wedi gosod gwariant gan lywodraethau wrth wraidd y ddadl. Mae’n rhaid i wneuthurwyr polisi ddyfeisio mesurau gofalus bellach er mwyn hybu’r adferiad ‘siâp-V’ sydd ei eisiau yn y tymor byr, a phan fydd y pandemig wedi dod i ben, hybu iechyd tymor hir economi’r DU. Mae cynhyrchiant yn hybu twf economaidd cynaliadwy ac mae’n sail i allu’r llywodraeth i fenthyg a darparu gwasanaethau cyhoeddus, felly mae’n debyg y bydd y ‘penbleth cynhyrchiant’ (sef marweidd-dra cynhyrchiant y DU ers 2008) yn dal i fod yn bryder.

Mae gan economïau datblygol wendidau ychwanegol wrth wynebu goblygiadau ergydau byd-eang fel COVID-19, gan gynnwys sefydliadau gwan, sectorau anffurfiol mawr, a sectorau ariannol bregus a chanddynt fynediad cyfyngedig i gyfalaf. Ar ôl arloesi’n ariannol ac integreiddio’r farchnad yn gyflym iawn, mae trosglwyddiad byd-eang ergyd COVID-19 hefyd wedi tynnu sylw at yr angen am lywodraethu effeithiol a chydlynu polisïau macro-economaidd rhyngwladol.

Mae macro-economeg yn faes deinamig felly, ac mae’r Ganolfan Ymchwil i Facro-economeg a Macro-gyllid (CReMMF) mewn sefyllfa dda i ymgysylltu â’r ddadl losg y mae’r materion hyn yn ei sbarduno. Rydym yn cynhyrchu modelau economaidd a gwaith empirig er mwyn helpu i lunio polisïau macro-economaidd, yn gyfochr â rheoliadau bancio ac ariannol newydd, ar gyfer y byd ar ôl yr argyfyngau credyd a COVID.

Mae heriau polisi mewn economïau marchnad datblygol (EMEs) yn ffocws allweddol i Ganolfan CReMMF, yn ei gwaith blaenorol ac yn ei hymchwil bresennol ynghylch cyflenwoldeb polisïau ariannol a chyllidol. Yn ein grŵp, mae maes ymchwil datblygol arall yn canolbwyntio ar ymatebion rhanbarthol i ergydau macro-economaidd; mae gwaith dadansoddi o’r math yn gallu cyfrannu at bolisïau cyhoeddus yng Nghymru. Hefyd rydym yn ystyried sut mae polisïau ariannol yn rhyngweithio ag anghydraddoldeb ac yn ail-ddosbarthu cyfoeth rhwng mathau gwahanol o deuluoedd. Mae cydnabod y rhyngweithiadau hyn yn bwysig wrth ddeall anghydraddoldeb ei hun a sut mae polisïau ariannol wir yn effeithio ar yr economi. Mae gwaith arall a ariennir yn ystyried anghydraddoldeb rhanbarthol yn Tsieina, yng nghyd-destun bancio cysgodol a chyllid y llywodraeth.

Bydd ein rhaglen seminarau’n cynnwys y testunau hyn a thestunau polisi allweddol eraill, gan amrywio o effaith hir dymor toriadau treth Trump ar farchnad stoc yr Unol Daleithiau, i effeithiau diwygio pensiynau rhwng cenedlaethau, sut i symud cyfraddau llog o’r terfyn sero is, ac a ddylai banciau canolog dargedu cynnyrch domestig gros (GDP) enwol yn hytrach na chwyddiant.

Mae gan Ganolfan CReMMF botensial sylweddol i greu effaith, dylanwadu ar ddadleuon ynghylch sut mae anghydraddoldeb, diweithdra, buddsoddiad a chynhyrchiant yn ymateb i ddigwyddiadau amrywiol, a sut mae gweithredoedd yn sgîl polisïau’n effeithio ar ganlyniadau. Hefyd mae’n blatfform ar gyfer cydweithredu â chanolfannau eraill yn Abertawe (e.e. y Ganolfan Ymchwil i Farchnadoedd Newydd (EMaRC) a Chanolfan Ymchwil a Gwerthuso Marchnad Waith Economi Cymru (WELMERC)), ymchwilwyr allanol, a rhanddeiliaid o fyd polisi a byd diwydiant. Am ragor o wybodaeth am ein gweithgareddau, e-bostiwch Bo.Yang@abertawe.ac.uk

Ysgrifennwyd y Blog gan: Dr Bo Yang a Dr Lucy Minford – darlithwyr mewn Economeg
Dyddiad cyhoeddi: 07/07/2020