Ysgrifennwyd gan Morwenna Tyler, Ymgynghorydd Gyrfaoedd yn yr Ysgol Reolaeth

Ar ddydd Llun 4 Mai, cynhaliodd NextGen Planners ei drydydd bŵt-camp ôl-raddedig ar gyfer darpar gynllunwyr ariannol drwy fformat rhithwir mewn cydweithrediad ag Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe. Mynychwyd y digwyddiad gan 17 myfyriwr a mwy nag 16 busnes.

Cynhaliwyd y bŵt-camp drwy weminar dros gyfnod o hanner diwrnod, a’r nod oedd partneru myfyrwyr â chyflogwyr sydd yn chwilio am dalent newydd. Darparodd y sesiwn gyfle i fyfyrwyr  rwydweithio â chyflogwyr o leoedd ar draws y DU o’r sector Gwasanaethau Ariannol, a chyflwynodd y myfyrwyr gyflwyniadau a oedd wedi’u recordio yn gynt er mwyn i’r cyflogwyr eu hystyried, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp a thrafodaethau.

Ymgymerodd y myfyrwyr â detholiad o dasgau grŵp a thrafodaethau gan gynnwys penbleth moesegol, gan gynnig i’r busnesau a oedd yn mynychu gyfle i arsylwi ar y myfyrwyr yn gweithio fel tîm a gwireddu canlyniad, a’u gwerthuso.

Diben y bŵt-camp yw cysylltu cyflogwyr â’n myfyrwyr a rhoi’r cyfle iddynt greu perthnasoedd a fydd gobeithio’n arwain at gyfleoedd yn y dyfodol. Roedd yn braf gweld cynifer o gyflogwyr ar draws y sector yn rhannu’r un neges, sef eu bod yn parhau i recriwtio ac yn gobeithio sicrhau talent, er gwaethaf y sefyllfa Covid-19.

“Rwyf mor ddiolchgar i NextGen Planners a Phrifysgol Abertawe am drefnu’r digwyddiad, roedd yn llawn gwybodaeth ac yn wych darganfod bod yno ddigon o gyfleoedd i fod yn gynlluniwr ariannol. Gobeithio byddaf yn clywed gan ychydig o gwmnïau yn ystod y diwrnodau nesaf.” - Ben Gates, myfyriwr Busnes yn ei 3ydd-blwyddyn 

Mae Adam Owen, cyd-sefydlydd NextGen a Llywydd y Gymdeithas Cyllid Personol, yn frwdfrydig am gyflwyno talent newydd i’r sector. Yn benodol, mae Owen yn awyddus iawn i gyfrannu at gau’r bwlch a achoswyd gan ganran uchel o gynghorwyr a gredir fydd yn gadael y proffesiwn dros y blynyddoedd nesaf. "Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod gennym fwlch o 7,500 person yn y nifer o bobl y bydd angen recriwio i’r proffesiwn dros y pum mlynedd nesaf," meddai.

“Rwyf mor ddiolchgar am y profiad anhygoel hwn, rwyf eisoes wedi cael cyswllt â chyflogwr! Rwyf wir yn gwerthfawrogi tîm Gyrfaoedd Prifysgol Abertawe yn neilltuo amser ac ymdrech er mwyn trefnu hyn inni.” - Lizzie Lomas, myfyrwraig Fusnes yn ei 3ydd-blwyddyn

Roedd y digwyddiad yn cynnwys cwmnïau megis cwmni Mazars, sydd yn cyflogi mwy na 30 o raddedigion yn flynyddol, cwmni Bartlett Wealth Management, sydd am ddyblu ei weithlu, The Progeny group, Brunel Capital Partners a llu o gwmnïau eraill ar draws y sector Gwasanaethau Ariannol.

Roedd James Beck o gwmni Fiscal Engineers yn hapus i gyfranogi yn y digwyddiad, “ar ôl graddio nid amser maith yn ôl, rwyf yn gwerthfawrogi pa mor anodd yw cymryd y cam cyntaf tuag at yrfa, felly mae’n fendigedig gweld mentrau fel hyn” meddai. “Rydym yn edrych ymlaen at adolygu fideos y myfyrwyr, ac eisoes mae ychydig ohonynt y gallem eu hystyried ar gyfer swyddi”         

Eisiau gwybod rhagor am y gwaith mae ein hymgynghorwyr gyrfaoedd yn ei wneud ac am ragor o webinars fel hyn yn y dyfodol? E-bostiwch ni!

Ysgrifennwyd y Blog gan: Morwenna Tyler, Ymgynghorydd Gyrfaoedd yn yr Ysgol Reolaeth
Dyddiad cyhoeddi: 18/05/2020