Croeso i'r Adran Economeg

Yn Abertawe, rydym yn ymfalchïo yn ein cydbwysedd o addysgu arloesol ac ymchwil sy’n arwain y sector, mewn amgylchedd cymunedol cryf. Drwy feithrin dealltwriaeth gadarn o feysydd craidd economeg, cewch gyfle i ddewis o amrywiaeth o fodiwlau er mwyn teilwra’ch gradd i’ch diddordebau penodol.

Bydd ein hathrawon arobryn yn defnyddio ymchwil arloesol a thechnegau addysgu sy'n cael eu harwain gan ddiwydiant i ddatblygu eich sgiliau trosglwyddadwy.  Drwy ddulliau asesu blaengar, gan gynnwys cyfryngau digidol a chwisiau rhyngweithiol a chyflwyniadau, yn ogystal â sesiynau mathemategol a dadansoddi, mae hyn yn eich galluogi i ehangu eich set o sgiliau creadigol.

Rydym yn falch o’n hymchwil sector arweiniol dros amrywiaeth o feysydd Economaidd gan gynnwys cynhyrchiant, economeg ranbarthol, tyfiant a datblygiad economeg, economeg llafurio, economeg iechyd, economeg ariannol a data cyfres amser, micro-economeg a theori gêm. Rydym hefyd yn chwarae rhan flaenllaw mewn datblygiad economeg ranbarthol drwy Ganolfan Ymchwil a Gwerthuso Marchnad Waith Economi Cymru (WELMERC).