Torri tir newydd
Rydym yn hyrwyddo technolegau newydd ac arloesedd
Rydym yn cefnogi diwydiant gyda thechnolegau newydd sy'n ymwneud â dur glanach, gwyrddach ac yn creu tai sy'n gallu cynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni eu hunain.
Rydym yn datblygu dulliau meddygol newydd ac arloesol megis dyfeisiau micronodwydd 'di-boen' ar gyfer cyflenwi cyffuriau a brechlynnau arbenigol ac rydym yn arwain y gwaith ar ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o bympiau gwaed mewnblanadwy ar gyfer methiant datblygedig y galon. Ni fu'n gyfrifol am greu rhai o'r dyfeisiau tagio anifeiliaid cyntaf erioed sydd wedi chwyldroi ein dealltwriaeth o'r modd y mae anifeiliaid, yn symud, yn mudo ac yn ymddwyn.
Rydym yn llywio canllawiau, yn newid polisi ac yn arwain newidiadau
Rydym yn herio meddwl confensiynol ac yn newid polisi er mwyn diogelu dyfodol y rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rydym wedi helpu creu deddfau newydd ar hawliau dynol plant a phobl ifanc. Mae ein hymchwil wedi darparu seiliau i bolisïau ar wahaniaethu yn y gweithle drwy ddatgelu anghydraddoldebau sydd wedi ymwreiddio'n ddwfn yng Nghymru a'r DU.
Mae ein gwaith wedi helpu llunio canllawiau i gefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan hunan-niwed, ac yn arwain ar ddatblygu polisïau byd-eang sy'n ymwneud â defnyddio nano-ddeunydd yn ddiogel.
Rydym wedi sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol i'n hymchwil er mwyn cael gwell dealltwriaeth o anghenion a dyheadau poblogaeth sy'n heneiddio. Rydym wedi herio doethineb confensiynol ar bolisi cyffuriau rhyngwladol, gan ddod ag arloesedd i ddadleuon lefel uchel a newidiadau polisi.
Rydym yn gweithredu i gynghori'r lluoedd arfog o ran amddiffyn safleoedd diwylliannol mewn ardaloedd lle ceir gwrthdaro a thrychinebau naturiol, ac rydym wedi gweithredu fel catalydd ym maes adfywio safleoedd diwydiannol a adawyd.