PENNOD 7: Cadw safleoedd treftadaeth mewn parthau gwrthdaro: a yw hyn yn helpu cymunedau i wella?

TROSOLWG O'R PENNOD

A yw'n bwysicach diogelu treftadaeth mewn parthau  gwrthdaro na diogelu bywydau pobl ar adeg rhyfel ac aflonyddwch sifil? Yn y bennod hon o Ymchwilio i Broblemau Byd-eang, mae Dr Nigel Pollard yn trafod ei waith ar ddiogelu treftadaeth mewn parthau gwrthdaro ledled y byd a pham mae'n bwysig o safbwynt moesol ac athronyddol. Gan dynnu ar ei waith mewn gwledydd yn Syria, yr Aifft a'r Eidal, mae Nigel yn trafod sut gall diogelu treftadaeth ailadeiladu cymunedau a chwalwyd gan wrthdaro, pwysigrwydd safleoedd treftadol i economïau lleol a chenedlaethol a sut gall y lluoedd arfog ar ymgyrchoedd cynnal heddwch gefnogi cymunedau lleol drwy barchu treftadaeth leol.

AM EIN HARBENIGWYR

Mae Dr Pollard yn hanesydd ac yn archeolegydd am gyfnod y Rhufeiniaid. Mae ei ddiddordebau penodol yn cynnwys diogelu eiddo diwylliannol mewn parthau brwydro – yn hanesyddol ac yn y cyfnod modern. Ar hyn o bryd mae Dr Pollard yn gweithio’n bennaf ar astudio’r gwaith o ddiogelu, difrod? a derbyn safleoedd archeolegol a henebion yn yr Ail Ryfel Byd, gan gynnwys gwaith yr Is-Gomisiwn Henebion, Celfyddydau Cain ac Archifau (y ‘Dyn Henebion’) ac yn aelod bwrdd o Bwyllgor Cenedlaethol ‘Blue Shield’ y DU. Mae’n ymwneud â llywodraethau, sefydliadau anllywodraethol a phersonél milwrol i hyrwyddo’r gwaith o ddiogelu safleoedd diwylliannol yn ystod brwydrau a thrychinebau naturiol.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.