Pennod 8: Nanowenwyneg – y pethau bach sy'n bwysig

TROSOLWG O'R PENNOD

A allai'r dechnoleg sy'n sail i'ch ffôn symudol, sydd mor fach â feirysau, arwain at roi terfyn ar brofi ar anifeiliaid? Mae'n swnio ychydig fel gwyddoniaeth ffuglennol ond yr ateb, yn ôl yr Athro Shareen Doak, yr ateb yw'r pethau bach, yn llythrennol, a phan fyddwn ni'n sôn am fach iawn, rydym yn sôn am lai na lled darn o wallt dynol.

Yn y bennod hon, mae'r Athro Doak yn turio i fyd nano-genowenwyneg ei thîm. Mae ei gwaith yn archwilio sut mae'r gronynnau bach iawn hyn yn cael eu defnyddio mewn eitemau o ddydd i ddydd, a meddyginiaeth a allai achosi niwed DNA, sy'n gallu arwain at ganser.

Mae gwaith yr Athro Doak yn ystyried sut y gallwn ni greu profion ac offer rheoleiddio ar gyfer nanodechnoleg wrth iddynt gynyddu yn ein cymdeithasau. Mae'r profion mae hi'n eu datblygu yn creu ffyrdd gwell a mwy dibynadwy o brofi cynnyrch, gyda'r potensial i ddileu'r angen am brofi ar anifeiliaid.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.