Pennod 1: Newid hinsawdd: darllen y gorffennol mewn data cylchoedd coed

TROSOLWG O'R PENNOD

Sut ydym ni'n gwybod os yw cynhesu byd-eang yn yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain yn anomaledd, neu'n rhan o gylch naturiol yn unig? 

Gellir dyddio ar sail cylchoedd tyfiant coed mewn ffordd absoliwt, a'u defnyddio i fapio ar amserlen hanesyddol. Mae'r data hwn o gylchoedd coed yn dangos bod y newidiadau yn y tymheredd rydym ni wedi bod yn dyst iddynt yn yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain wedi bod yn ddigynsail o ran cyflymder, ac maent yn fyd-eang, sy'n awgrymu argyfwng hinsoddol gwirioneddol. 

Am ein harbenigwyr

Mae'r Athro Mary Gagen, o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, yn mesur data cylchoedd tyfiant coed, sef 'gorsafoedd tywydd ledled y byd', i ddarganfod yr hyn sydd wedi digwydd ar draws y blaned dros y miloedd o flynyddoedd diweddaraf.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.