Pennod 2: Ymateb i Covid-19 gan ddefnyddio Data Mawr

Spotify embed:

TROSOLWG O'R PENNOD

Dan arweiniad yr Athro Ronan Lyons, Athro mewn Iechyd Cyhoeddus, bu ymchwilwyr Gwybodeg Iechyd Cleifion a’r Boblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn defnyddio eu craffter a'u harbenigedd i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19. Mae eu harbenigedd yn helpu i ymateb i’r pandemig yng Nghymru a’i reoli. 

Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, mae'r Athro Ronan Lyons yn trafod â Dr Sam Blaxland sut mae data mawr anhysbys yn helpu i fynd i'r afael â heriau iechyd a lles a sut mae'r arbenigedd hwn wedi llywio ymateb y Llywodraeth.

Mewn cyfweliad hynod bwerus, mae Dr Blaxland yn archwilio beth nesaf? Pryd gallwn ni ddisgwyl dychwelyd i fywyd normal? Ac ai aberthu hawliau a rhyddid pobl oedd y penderfyniad iawn?

Am ein harbenigwyr

Mae gwaith yr Athro Ronan Lyons a'i dimau ym Mhrifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar ddefnyddio data iechyd anhysbys er mwyn helpu i lywio gwaith llunwyr polisi ac ymarferwyr ar draws Cymru, y DU ac yn fyd-eang.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.