Pennod 9: Archwilio’r Bydysawd: Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf o Wyddonwyr

TROSOLWG O'R PENNOD

Mae mwy o bobl ifanc yn dewis astudio pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, a Mathemateg) yn y brifysgol ond mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau o hyd wrth ystyried nifer y merched sy’n dewis astudio Ffiseg ar ôl 16 oed. 

Yn y bennod hon yn y gyfres Exploring Global Problems, mae Dr Sarah Roberts a’n cyflwynydd, Dr Sam Blaxland, yn trafod pwysigrwydd modelau rôl ac athrawon Ffiseg o ran gwneud y pwnc yn fwy cyffrous ar gyfer eu disgyblion a sut y gall seryddiaeth gael ei defnyddio fel bachyn i ysbrydoli plant ac ennyn eu brwdfrydedd am astudio Ffiseg a phynciau STEM.

Maent hefyd yn trafod gwaith Dr Roberts ei hun gyda Phrosiect Telesgop Faulkes, sef prosiect allgymorth addysgol â’r nod oennyn diddordeb pobl ifanc mewn gwyddoniaeth. Maent yn siarad am allu disgyblion ysgol i gynnal ymchwil go iawn gyda gwyddonwyr go iawn a pha ddarganfyddiadau y mae ysgolion wedi’u gwneud gan ddefnyddio Telesgopau Faulkes. Os hoffech chi ddysgu mwy am y prosiect hwn, ewch i wefan Prosiect Telesgop Faulkes.

Yn ddiweddarach, mae Dr Roberts wedi derbyn cyllid gan STFC (Science Technology Facilities Council) i gynnal prosiect allgymorth seryddiaeth yng Nghymru o’r enw 'Stardust Hunters' lle caiff plant ysgol gynradd eu hannog i gynllunio ymchwiliadau gwyddonol, chwilio am lwch o’r gofod yn eu gerddi ac ar iard eu hysgol. Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, ewch i wefan Stardust Hunters.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.