PENNOD 4: EFFEITHIAU DINISTRIOL “GWEFRAU CYFREITHLON”

TROSOLWG O'R PENNOD

Dr Amira Guirguis yw Cyfarwyddwr ein Rhaglen Fferylliaeth ac yn y podlediad hwn mae'n archwilio Sylweddau Seicoweithredol Newydd a adnabu fel gwefrau cyfreithlon, a'r bygythiad difrifol ydynt i iechyd cyhoeddus. Ynghyd â Dr Sam Blaxland, bydd y podlediad hwn hefyd yn archwilio'r berthynas rhwng ysmygu sigaréts electronig a marwolaethau diweddar yn America, a sut gall Sylweddau Seicoweithredol Newydd gael eu deall yn well, eu dosbarthu a thrin eu heffeithiau.

AM EIN HARBENIGWYR

Mae Dr Amira Guirguis o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe’n arbenigwr wrth adnabod a dosbarthu sylweddau seicoweithredol newydd. Hi yw Cyfarwyddwr Rhaglen newydd y cwrs MPharm mewn Fferylliaeth. 

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.