Symposiwm Ymchwil Ôl-raddedig Heriau Byd-eang
23 Mehefin 2021, ar-lein
Gyda'r nod o hyrwyddo a chefnogi gwaith ymchwilwyr ôl-raddedig o bob disgyblaeth a maes pwnc y mae eu gwaith yn ategu'r Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang (GCRF) a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Mae'r GCRF yn cefnogi ymchwil â'r nod o ddatblygu llwybrau cynaliadwy ac ymarferol at fywydau iachach a diogelach a ffyniant i bawb, gan ganolbwyntio ar wella bywydau a chyfleoedd yn Hemisffer y De. Mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ar draws y Brifysgol yn cynnal ymchwil bwysig mewn llawer o feysydd sy'n gysylltiedig â blaenoriaethau’r GCRF. Bydd y symposiwm yn darparu fforwm i arddangos y gwaith hwn, gan ganiatáu i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig archwilio i sut y mae'r GCRF a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn cyd-fynd â'u hymchwil, a rhannu eu gwaith â chynulleidfa amlddisgyblaethol ar draws y Brifysgol. Gobeithiwn y bydd hwn hefyd yn ysbrydoli myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ystyried posibiliadau rhyngddisgyblaethol a chydweithrediadau ymchwil newydd.