Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ym maes atal a thrin anafiadau llosg

Kamal Phuyal,

Yr Her

Mae’r rhesymau dros anafiadau llosg a’u difrifoldeb yn amrywio’n enfawr, gan gynnwys llosg haul a sgaldiadau llai pwysig yn ogystal ag anafiadau o bwys sy’n treiddio’n ddwfn i’r croen gan achosi trawma sylweddol iawn. Mewn cymdeithasau incwm uchel mae’r gwaith o atal anafiadau wedi lleihau’n sylweddol nifer yr anafiadau llosg ac mae anafiadau llosg sylweddol iawn yn digwydd yn anaml yn ffodus, yn aml o ganlyniad i ymdrechion i gyflawni hunanladdiad, tanau mewn tai a digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag alcohol neu gyffuriau neu oherwydd bod y cleifion yn bobl oedrannus ac yn eiddil. Mewn cymdeithasau tlotach ac economïau sy’n dod i’r amlwg, mae anafiadau llosg yn digwydd yn amlach o lawer ac maen nhw’n tueddu i ddigwydd yn sgîl coginio (e.e. coginio lefel isel, stofiau cerosin anniogel ac ati), peryglon galwedigaethol, anafiadau yn sgîl gwrthdaro a thrais rhyngbersonol yn ogystal â phroblem sy’n dod i’r amlwg, sef anafiadau trydanol foltedd uchel o ganlyniad i seilwaith gwael.

Dulliau

Mae’r Athro Tom Potokar wedi ymgymryd â llawdriniaeth fawr mewn llawer o’r ardaloedd tlotaf yn y byd, gan weithio ar y cyd â chlinigwyr, ysbytai a llywodraethau er mwyn darparu hyfforddiant ym maes anafiadau llosg, trin anafiadau ac ymgynghoriaeth polisi. Ac yntau’n disgrifio llosgiadau mewn gwledydd tlotach fel ‘Clefyd Tlodi’ na fyddai’n cael ei dderbyn mewn ardaloedd incwm uwch, mae’n rhan o fudiad rhyngwladol cynyddol o weithwyr proffesiynol angerddol sy’n gweithio gyda’i gilydd er mwyn mynd i’r afael â’r hyn mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn cyfeirio ato fel Argyfwng Iechyd Cyhoeddus.

Mae wedi treulio llawer o flynyddoedd yn ymweld ag ysbytai ac yn rhoi hyfforddiant i staff meddygol ac aelodau eraill o staff iechyd er mwyn meithrin galluoedd yn gyflym i gyflenwi rheolaeth sylfaenol, hanfodol ac uwch ym maes anafiadau. Gan weithio gyda chydweithwyr ledled y byd, sefydlwyd cyfleusterau llosgiadau, unedau llosgiadau a chanolfannau llosgiadau mewn cyd-destunau isel eu hadnoddau. 

Claf Llosg Ifanc

Yna, mae rhaglenni hyfforddi unigryw a ddatblygwyd dros 10 mlynedd wedi cael eu rhoi ar waith yn seiliedig ar asesiadau pwrpasol o’r anghenion gan gynnwys:

  • Hyfforddiant Sylfaenol – cymysgedd o gymorth cyntaf a rheoli anafiadau (adnabod dyfnder y llosgiadau, glanhau’r anafiadau, rhwymo’r anafiadau, cyngor ynghylch symud/codi’r claf, adnabod problemau ac atgyfeirio cleifion i’r gwasanaethau cywir) – a anelir at reoli llosgiadau cleifion allanol
  • Hyfforddiant Canolradd - rhaglen hyfforddi fwy cynhwysfawr ar gyfer y cleifion hynny y mae angen cyfnod yn yr ysbyty arnyn nhw, gan ganolbwyntio ar ofal nyrsio, rheolaeth lawfeddygol, gweithio fel tîm, cyfathrebu ac arweinyddiaeth
  • Hyfforddiant Uwch – nyrsio, gofal llawfeddygol ac adsefydlu uwch

Wrth uwchraddio’r gweithgarwch ar draws systemau gofal iechyd gwledydd, cyflwynwyd cynllun hyfforddi’r hyfforddwr ac erbyn hyn mae ymarferwyr meddygol lleol yn cyfnewid mathau o wybodaeth ac arbenigedd y maen nhw wedi’u datblygu gyda chymheiriaid ar draws meddygfeydd ac ysbytai.

Gyda’r bwriad o chwalu rhwystrau diwylliannol a rhannu arferion gorau, mae’r Athro Potokar wedi gweithio gyda chydweithwyr ledled y byd. Mewn un enghraifft, tra’n gweithio i wella gofal meddygol mewn ysbyty yn Nepal, bu’n gweithio gyda chyfadran a oedd yn cynnwys cydweithwyr o Affganistan, Bangladesh, Ethiopia, Ghana, yr India, Nepal, Nigeria, Palesteina a De’r Affrig.

Wrth fynd i’r afael â’r heriau sy’n cael eu creu yn sgîl anghydraddoldeb, mae’r Athro Potokar wedi mynd y tu hwnt i gyflwyno technegau, triniaethau, deunyddiau a hyfforddiant newydd ar y lefel leol gan weithio bellach gyda chymunedau a chyrff llywodraethol i beri bod newid yn digwydd ar raddfa ehangach o lawer.

Un enghraifft yw’r gwaith ar y cyd â Gweinyddiaeth Ffederal Iechyd Ethiopia i greu Strategaeth Genedlaethol sy’n ystyried sut i atal a rheoli anafiadau llosg yn effeithiol ar draws y wlad gyfan – gan gynnwys deall nid yn unig sut y caiff cleifion eu hanafu ac adnabod y ffyrdd y gellid lleihau hyn ond hefyd y dasg o ystyried y gofal, y cyfleusterau, y systemau atgyfeirio, y cludiant, yr adnoddau a’r hyfforddiant a’r gwaith o adsefydlu ac ailgyflwyno cleifion i’r gymdeithas sydd ar waith ar hyn o bryd. Er mwyn cyflawni hyn, gwnaed ymchwil i ddeall effaith economaidd anaf llosg ar y claf, ei deulu, ei gyfeillion a’r system iechyd ehangach.

Yr Effaith

Mae effaith gweithio’n uniongyrchol â chymunedau er mwyn chwalu rhwystrau, codi ymwybyddiaeth ac adnabod a rhoi atebion i atal llosgiadau ar waith wedi bod yn ddirfawr.

Mewn un enghraifft, yn lle defnyddio lampau cerosin mewn pentref yn yr India cyflwynodd y tîm oleuadau sy’n defnyddio ynni’r haul, gan arwain at leihad mewn anafiadau o 6-8 y flwyddyn i 0.  Dros gyfnod o 3 blynedd:

Breaking the taboo: Sita Bhandari
  • Gwerthuswyd 14 o wasanaethau llosgiadau, rhoddwyd gwelliannau fforddiadwy ar waith a chyfunwyd offerynnau drwy ap digidol i ddarparu datblygiad a chymorth parhaus.
  • Rhoddwyd hyfforddiant sylfaenol mewn gofal llosgiadau i 600 o staff mewn iechyd sylfaenol.
  • Rhoddwyd hyfforddiant uwch mewn gofal llosgiadau i 462 o nyrsys.
  • Hyfforddwyd 35 o lawfeddygon yn Nepal a 32 o lawfeddygon yn Ethiopia, Cenia, y Swdan a Simbabwe. Cafodd 36 o staff eraill hyfforddiant uwch mewn nyrsio gofal llosgiadau.
  • Cafodd rhaglen blwyddyn ddwys ei datblygu a’i chyflenwi hefyd i 8 nyrs, gan arwain at welliannau o safon mewn ysbytai.
  • Mae’r rhaglen hyfforddi’r hyfforddwr wedi arwain at welliannau parhaus a gwaddol parhaol o ran gwell deilliannau ar gyfer y cleifion.

Mae’r gwaith y mae’r Athro Potokar a’r tîm yng Nghanolfan Polisi ac Ymchwil Anafiadau Llosg Byd-eang yn ei gynnal ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal â’r cydweithwyr sy’n gweithio gydag Interburns ledled y byd wedi arwain at effeithiau go iawn drwy welliannau mewn gwasanaethau, atgyfnerthu’r hyfforddiant a gaiff y staff a gweithgarwch i atal anafiadau llosg yn y gymuned.

Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (CU)

Themâu Ymchwil Prifysgol Abertawe