
Am yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Kennedys, cwmni byd-eang sy’n arbenigo mewn gwahanol sectorau masnachol cyfreithiol, ac yn enwedig yswiriant, wedi noddi'n hael wobr ar gyfer modiwl yswiriant morol Abertawe.
Yuan Qiao gafodd y marc uchaf eleni mewn yswiriant morol, a bydd yn elwa ar wobr ariannol a'r cyfle i gael interniaeth yn y cwmni.
Cyflwynwyd y wobr gan y partner Michael Biltoo mewn cinio yn swyddfa Kennedys yn Llundain. Graddiodd Michael o Abertawe, mae'n arbenigwr yn y sector morol a llongau, ac yn bennaf mae'n cynrychioli perchnogion, siarterwyr, cludwyr llwythi ac yswirwyr cargo mewn amrywiaeth o faterion yn ymwneud â llongau a thrafnidiaeth.
Wrth siarad am ei gamp, meddai Yuan:
"Rwy'n ddiolchgar iawn i'm prifysgol a'm hathrawon am gefnogi fy nysgu, ac i Kennedys, sy'n gwmni mor uchel ei barch, am roi'r cyfle hwn i mi."
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Dr Kurtz-Shefford, a aeth gyda Yuan a'r Athro Soyer i Kennedys:
"Mae'n bleser mawr bod yn gysylltiedig â chwmni cyfreithiol mor ysbrydoledig. Mae hyn yn arwydd clir o'r parch sydd gan y proffesiwn cyfreithiol at raglenni LLM Prifysgol Abertawe , ac mae'n siŵr bod y cysylltiad agos hwn â Kennedys yn rhoi cyfleoedd rhagorol i'n myfyrwyr. Rydym yn dymuno'r gorau i Yuan yn ei fywyd proffesiynol a fydd yn llwyddiannus iawn heb os."