Mae'r Gyfraith yn Abertawe wedi cael ei chynnwys yn Times Higher Education (THE) World University Rankings 2023 gan gael ei chynnwys yn safle 67 yn nhabl cynghrair y byd.

Mae THE Rankings wedi bod yn darparu data y gellir ymddiried ynddo ynghylch prifysgolion y byd ers 2004 ac mae rhifyn 2023 yn cynnwys 1,799 o brifysgolion ar draws 104 o wledydd a rhanbarthau sef y rhifyn mwyaf a mwyaf amrywiol hyd heddiw. 

Caiff 13 o ddangosyddion perfformiad eu mesur sy'n cynnwys perfformiad pob sefydliad ar draws pedwar maes:

  • Addysgu
  • Ymchwil
  • Trosglwyddo Gwybodaeth
  • Rhagolwg rhyngwladol

Dadansoddodd y tablau eleni dros 121 miliwn o ddyfyniadau ar draws mwy na 15.5 miliwn o gyhoeddiadau ymchwil gan gynnwys ymatebion i arolygon gan 40,000 o ysgolheigion ar draws y byd. Yn gyffredinol, casglwyd 680,000 o bwyntiau data gan dros 2,500 o sefydliadau.

Ar y cyfan, mae Prifysgol Abertawe wedi'i chynnwys ymhlith sefydliadau gorau’r byd yn 10 o’r 11 pwnc sy’n cael eu rhestru a'r Gyfraith yw'r pwnc yn y safle uchaf gan roi'r Gyfraith yn Abertawe ymhlith prifysgolion mwyaf blaenllaw y byd.

Mae llwyddiant y Gyfraith yn THE rankings a thablau cynghrair rhyngwladol a thablau cynghrair eraill y Deyrnas Unedig yn dystiolaeth o'i henw da parhaol o ran darparu addysgu, ymchwil, boddhad myfyrwyr o'r radd flaenaf a rhagolygon gyrfa ardderchog.

Rhannu'r stori