Cynhaliwyd gweminar gan y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) i lansio monograff Dr Youri van Logchem; "The Rights and Obligations of States in Disputed Maritime Areas", a gyhoeddwyd gan Cambridge University Press ym mis Hydref 2021.

Mae'r llyfr yn archwilio'r hawliau a'r rhwymedigaethau sydd gan wladwriaethau o dan gyfraith ryngwladol o ran ardaloedd morwrol sy’n destun anghydfod a dyma'r drafodaeth gynhwysfawr gyntaf o’r mater hynod amserol a phwysig hwn.

Denodd y digwyddiad enwau o fri ym maes Cyfraith y Môr: Yr Athro Natalie Klein; Yr Athro Robert Beckman; Yr Athro Robin Churchill, ac fe'i cadeiriwyd gan Syr Michael Wood. Rhoddodd y panelwyr eu barn ar y mater heriol hwn gan gysylltu eu dadansoddiad â phrif themâu'r llyfr.

Dymuna'r Ysgol longyfarch Dr Van Logchem am gyhoeddi'r gwaith ysgolheigaidd hwn. Mae'n ychwanegiad gwych at nifer sylweddol o gyhoeddiadau a gynhyrchwyd gan aelodau o’r IISTL.

Gwyliwch y weminar ar sianel YouTube yr IISTL.

Rhannu'r stori