
Mae BIMCO yn gorff anllywodraethol o aelodau, a hwn yw’r sefydliad morgludiant mynediad uniongyrchol mwyaf gyda thros 1,900 o aelodau mewn mwy na 130 o wledydd.
Mae ei aelodaeth yn cynrychioli 60% o lynges cargo'r byd o’i fesur mewn tunelledd. Mae'n sefydliad adnabyddus yr ymddiriedir ynddo ledled y byd fel y partner o ddewis i gynnig arweiniad i'r diwydiant morgludiant byd-eang, yn enwedig o ran llunio contractau a chymalau safonol.
Mae llunio contractau a chymalau safonol o'r fath yn cynnwys proses drwyadl lle caiff y mater ei ystyried yn gyntaf gan is-bwyllgor Pwyllgor Dogfennol BIMCO, sy'n cynnwys arbenigwyr a benodwyd gan BIMCO i gynrychioli agweddau perthnasol ar y diwydiant morgludiant.
Mae'r is-bwyllgor hwnnw'n adrodd yn achlysurol i'r Prif Bwyllgor Dogfennol ac mae'n ystyried y sylwadau a'r arsylwadau a wneir gan y Pwyllgor Dogfennol cyn cyflwyno ffurf derfynol y contract neu'r cymal i'r Pwyllgor Dogfennol i'w gymeradwyo a'i fabwysiadu.
Mae gan Bwyllgor Dogfennol BIMCO gynrychiolwyr o bob gwlad sy'n aelodau o BIMCO ac mae ganddo arsylwyr o'r rhan fwyaf o sefydliadau rhyngwladol eraill sy'n cynrychioli'r diwydiant morgludiant mewn rhyw ffordd.
Mae'n fraint bod Ysgol y Gyfraith Abertawe'n cael ei chynrychioli ar y Pwyllgor Dogfennol gan yr Athro Richard Williams (un o aelodau mwyaf nodedig y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol) sy'n un o'r ddau aelod yn unig a gyfetholwyd oherwydd eu gwybodaeth arbenigol. Mae'r Athro Williams hefyd yn aelod o'r Is-bwyllgor sydd wedi llunio'r Gencon newydd ar gyfer 2022.
Siarter Llogi Llongau Gencon yw siarter teithiau sych "arobryn" BIMCO a dyma brif gynhalydd y farchnad llwythi sych ers 1922. Mae'r byd morgludiant wedi newid yn sylweddol, nid yn unig ers 1922, ond hefyd ers 1994 pan gyhoeddwyd y fersiwn olaf o Gencon. Felly, mae'n briodol iawn bod fersiwn newydd yn cael ei chyhoeddi wrth ddathlu canmlwyddiant ei greu.
Mabwysiadwyd Gencon 2022 newydd gan Bwyllgor Dogfennol BIMCO yn ei sesiwn lawn yng Ngwesty'r Savoy, Llundain ar 18 Mai.