
Nod Tablau QS o Brifysgolion y Byd yw cydnabod y sefydliadau, yr ysgolion a'r adrannau gorau yn y byd.
Mae chwe dangosydd i'r fethodoleg a ddefnyddir ar gyfer y tablau, gan ystyried pedwar categori eang;enw da am ymchwil, yr amgylchedd dysgu ac addysgu, effaith ymchwil a rhyngwladoli.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y Gyfraith yn Abertawe wedi cyrraedd y 200 gorau yn Nhablau QS o Brifysgolion y Byd yn 2022, gan ddangos gwelliant sylweddol ar ei safle yn 2021, a dringo 100 o leoedd.
Yn siarad am safle Abertawe, meddai'r Athro Cysylltiol Alison Perry, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton:
"Rydym wrth ein boddau bod Abertawe wedi gwella yn y tablau ymysg yr ysgolion y gyfraith gorau yn y byd, yn ôl safleoedd QS eleni.
Mae hyn, ynghyd â'n safleoedd cyson uchel mewn arolygon a thablau cynghrair annibynnol eraill ar gyfer boddhad myfyrwyr, cyflogadwyedd a rhagoriaeth ymchwil, yn cadarnhau bod y Gyfraith yn Abertawe'n parhau i adeiladu ar ei henw da am ragoriaeth ryngwladol ac ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, yn ogystal â darparu amgylchedd dysgu rhagorol ar gyfer ein myfyrwyr."