
Yn 2021, bu'r cwmni cyfreithiol Stephenson Harwood LLP mewn partneriaeth â Rhaglenni LLM Llongau a Masnach Prifysgol Abertawe fel noddwr unigryw ei chwrs LLM mewn Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy.
Yn ogystal â rhoi darlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn ar faterion cyfreithiol ym maes ynni adnewyddadwy ar y môr, mae Stephenson Harwood LLP wedi rhoi interniaethau i ddau o’r myfyrwyr gorau. Bydd y myfyrwyr yn ymuno â'r cwmni ym mis Medi 2022.
Mae'r LLM mewn Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy yn rhoi dealltwriaeth fanwl i fyfyrwyr o'r agweddau cyfreithiol a masnachol cymhleth y mae partïon yn ymdrin â nhw bob dydd yn y sector ynni ar y môr. Bydd yr interniaethau hyn yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr weithio yn adran masnach forol a rhyngwladol y cwmni (MIT), ochr yn ochr â chyfreithwyr sydd wedi cynghori ar amrywiaeth o brosiectau morwrol, prosiectau ar y môr a phrosiectau ynni ledled y byd.
"Rydyn ni'n falch iawn o'n partneriaeth â Phrifysgol Abertawe – sy'n adnabyddus am ei hystod eang o gyrsiau ynni morwrol ac ynni ar y môr – ac mae'n gyffrous ein bod yn gallu rhoi'r cyfle unigryw hwn i'r myfyrwyr hyn," meddai Alex Davis, pennaeth MIT, Stephenson Harwood. "Mae'r interniaethau hyn yn gyfle gwych iddynt gael rhywfaint o brofiad o’r diwydiant cyfreithiol, a byddant yn eu galluogi i roi eu gwybodaeth a'u sgiliau ar waith amgylchedd ymarferol."
Mae Stephenson Harwood hefyd wedi mynd ati i gyflwyno myfyrwyr o'r Brifysgol i gleientiaid a chysylltiadau Stephenson Harwood. Er enghraifft, mae High Speed Transfers, sef cwmni sy'n berchennog ac yn weithredwr llongau yn gweithio yn y sector gwynt ar y môr ac sydd â'i bencadlys yn Abertawe, eisoes wedi cyflogi dau gyn-fyfyriwr a raddiodd o Raglenni LLM Llongau a Masnach y Brifysgol, ers cael ei gyflwyno iddi y llynedd.
"Roeddem wrth ein bodd yn cael ein cyflwyno i Brifysgol Abertawe drwy Stephenson Harwood," meddai Bryn Smyth, Rheolwr Masnachol, High Speed Transfers. "Ers cael ein cyflwyno, rydym wedi cyflogi dau gyn-fyfyriwr o'r Brifysgol sydd bellach yn cael y cyfle i ddefnyddio'r sgiliau a'r arbenigedd maen nhw wedi'u dysgu drwy'r cwrs, mewn amgylchedd masnachol. Mae'n wych gallu cyflogi unigolion leol mor ddawnus sydd am weithio ym maes ynni ar y môr ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â’r Brifysgol yn y dyfodol."
Mae Dr Kurtz-Shefford, Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglenni LLM mewn Llongau a Masnach, yn diolch i Stephenson Harwood. "Mae'r ddau ohonom yn hynod falch ac yn ddiolchgar i'r bobl sy'n gweithio yn SH am ymddiddori mewn helpu Prifysgol Abertawe i feithrin ein myfyrwyr dawnus. Mae'r myfyrwyr yn sicr o elwa o'u cysylltiad â chwmni mor ddeinamig. Mae eu profiad nhw'n siŵr o fod yn amhrisiadwy."