Yn ddiweddar, bu myfyrwyr LLM Morgludiant a Masnach yn mwynhau taith i Lundain.Cymerodd y myfyrwyr ran yn rownd derfynol Cystadleuaeth Dadlau mewn Ffug-lys Barn HFW a Morgludiant a Masnach Prifysgol Abertawe, a hefyd aethant ar y daith Gyflogadwyedd flynyddol i Lundain.

Fel un o'r ychydig raglenni LLM yn y DU sy'n cynnig y fath gyfle , cafodd y myfyrwyr daith o'r Llysoedd Barn Brenhinol cyn treulio prynhawn yn swyddfeydd Llundain HFW, lle roeddent yn gallu gwylio rownd derfynol y gystadleuaeth dadlau mewn ffug-lys barn ac yna siarad ag aelodau'r cwmni.

Roedd y rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol y Gystadleuaeth Dadlau mewn Ffug-lys Barn Morgludiant a Masnach yn cynnwys cynrychiolwyr yr Hawlydd; Ms Dominique Gonzalez-Rodriguez, Mr Fumihiko Yoshida a'r Ymchwilydd Mr Yuan Qiao, a chynrychiolwyr y Diffynnydd; Ms Ece Birinci, Mr Edmundo Deville Del Aguila a'r Ymchwilydd Ms Nidhi Potla.

Roedd y gystadleuaeth anodd yn fwy heriol oherwydd y cwestiynau rhagorol a ofynnwyd gan ein panel o feirniaid:

  • Mr Simon Rainey CF - Quadrant Chambers
  • Mr Florian Schacker, a
  • Ms Johanna Ohlman - HFW

Hoffai'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol ddiolch iddynt am neilltuo amser yn eu hamserlenni prysur i gymryd rhan. Roedd y myfyrwyr wedi canfod y profiad yn un buddiol, unigryw a defnyddiol tu hwnt.

Y tîm a oedd yn cynrychioli'r Diffynnydd enillodd yn y diwedd, gyda Mr Rainey CF yn canmol safon y dadleuon a'u gallu i ateb cwestiynau anodd.

Meddai Dr Tabetha Kurtz-Shefford, Dirprwy Gyfarwyddwr y rhaglenni LLM Morgludiant a Masnach yn Abertawe:

"Rydym wrth ein boddau'n gallu cynnig rhywbeth i'n myfyrwyr nad yw llawer o raglenni LLM eraill yn gallu ei ddarparu, ac rydym yn hynod falch o'r holl fyfyrwyr a gymerodd ran. Llongyfarchiadau arbennig i Ece, Edmundo a Nidhi am eu gwaith caled (enillwyr y gystadleuaeth), a hefyd i'w gwrthwynebwyr am ornest mor dda.

Rydym yn gobeithio parhau i gynnig digwyddiadau fel hyn yn y dyfodol gan eu bod nhw'n rhoi cyfle i fyfyrwyr gael blas ymarferol gwych iar eu gyrfaoedd posib yn y dyfodol.  Rydym yn hynod ddiolchgar i HFW am gynnal digwyddiad mor wych a gwerthfawr."

Rhannu'r stori