Mae'r myfyrwyr o Brifysgol Abertawe, Louise Wilson, Océane Dieu a Florence King, ar y cyd â Gayatri Dixit o Heriot Watt, wedi creu'r tîm SW4NSE4 CYB3R o'r ddwy brifysgol, gyda chymorth Dr Kris Stoddart drwy gydol eu taith i'r rownd derfynol.

Mae'r Her Strategaeth Seiber 9/12 yn gystadleuaeth polisi a strategaeth seiber flynyddol, lle mae'r myfyrwyr mwyaf disglair o bedwar ban byd yn cystadlu wrth ddatblygu argymhellion polisi i fynd i'r afael â ffug drychineb seiber.

Yr Her yw'r unig gystadleuaeth seiber fyd-eang yn y byd sydd wedi'i dylunio i fynd i'r afael â'r bwlch mewn sgiliau seiber drwy efelychu argyfwng a dadansoddi polisi, gan geisio meithrin a datblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes seiberddiogelwch.

Er mwyn cyrraedd y rownd derfynol, roedd yn rhaid i dîm SW4NSE4 CYB3R ateb sawl cwestiwn wedi'i osod yn ofalus, er mwyn rhoi tystiolaeth am eu cefndir a'u profiad, wrth ddangos eu cymhwysedd ar draws nifer o sgiliau y mae'r her yn eu hybu, gan gynnwys deall technoleg, strategaeth a pholisi.

Roedd y cwestiynau'n amrywio o ystyried y digwyddiad seiber pwysicaf yn y byd hyd yn hyn, i fynd i'r afael â pholisi'r llywodraeth, wrth ystyried sut gall y Deyrnas Unedig wireddu ei huchelgeisiau i fod yn rym seiber democrataidd a chyfrifol.

Defnyddiodd y tîm bob un o'i sgiliau unigryw i ddarparu ymatebion manwl i bob un o'r heriau. Byddant yn ymddangos yn rownd derfynol yr Her, a gynhelir yn rhithwir rhwng 14 a 16 Chwefror. Y bwriad yw cynnal derbyniad nes ymlaen yn 2022 er mwyn dathlu cystadleuwyr y rownd derfynol a rhoi cyfle iddynt gwrdd â chefnogwyr yr her o fyd diwydiant a'r llywodraeth. 

Gan siarad am gyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Louise, sy'n fyfyriwr MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth:

"Mae astudio ar gyfer fy ngradd Meistr mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth yma ym Mhrifysgol Abertawe wedi rhoi'r cyfle hwn imi, sy'n gyfle unwaith mewn oes rwy'n falch ac yn ddiolchgar i fod yn rhan ohono.  Bydd yn gwella fy rhagolygon gyrfa yn y maes hwn heb os, a bydd yn garreg filltir wrth fy helpu i gyflawni fy nodau ar gyfer y dyfodol, sef gwneud y we a thechnoleg yn fannau mwy diogel."

Gan siarad am yr Her, dywedodd Florence:

"Rwy'n llawn cyffro wrth wella fy nealltwriaeth o'r diwydiant a chael cysylltiadau gwerthfawr drwy gydol y gystadleuaeth. Rydyn ni'n  falch iawn o gynrychioli Prifysgol Abertawe mewn tîm sy'n cynnwys merched yn unig mewn diwydiant wedi'i reoli gan ddynion yn bennaf. Er bod yr Her wedi derbyn ei nifer uchaf o geisiadau eleni, rydyn ni'n llawn cyffro bod tîm SW4NSE4 CYB3R wedi rhagori, gan gyrraedd y rownd derfynol."

Dyma'r hyn a oedd gan Océane i'w ddweud am ei phrofiadau:

"I fi, mae'r Her yn gyfle unwaith mewn oes lle bydda i'n gallu rhoi ar waith fy mrwdfrydedd ar gyfer seiberddiogelwch, y gyfraith, gwleidyddiaeth a llunio polisïau. Rwy'n argyhoeddedig mai cyfuno ein cefndiroedd fydd wrth wraidd ein cryfder fel tîm, a fydd yn galluogi pob un ohonon ni i dyfu. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau'r antur hon, a gobeithio mai dyma'r cam cyntaf at yrfa mewn seiberddiogelwch!"

Dywedodd Gayatri Dixit o Brifysgol Heriot Watt:

"Dyma gyfle gwych i roi ar waith fy ngwybodaeth am seiberddiogelwch. Rwy'n llawn cyffro ac yn edrych ymlaen at fod yn rhan o'r tîm SW4NSE4 CYB3R. Bydd gweithio gyda'n gilydd yn gyffrous ac yn rhoi cyfle i ni ddysgu gan ein gilydd. Rwy'n hyderus y bydd cymryd rhan yn yr her hon yn rhoi dealltwriaeth dda i mi wrth ddechrau ar fy ngyrfa ym maes seiberddiogelwch."

Gan siarad am gefnogi'r tîm hyd at y rownd derfynol, dywedodd Dr Kris Stoddart:

"Roedd yn fraint i mi allu creu tîm o Brifysgol Abertawe. Byddant yn anrhydeddu eu hunain a Phrifysgol Abertawe ac yn dangos yr amrywiaeth eang o sgiliau sy'n cael eu meithrin yn y cwrs MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth. Mae gen i bob ffydd yn y tîm a bydd y digwyddiad yn llwyddiant. Rwy'n falch o gefnogi'r tîm a Her Strategaeth Seiber 9/12."

Am ragor o wybodaeth am y radd MA mewn Seiberdrosedd a Therfysgaeth, ewch i dudalen we'r cwrs.

Rhannu'r stori