Fel myfyriwr y gyfraith yn Abertawe, manteisiodd Mari Watkins ar amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, o gystadlaethau dadlau mewnol yn y ffug lys barn yn Abertawe, i gynnal cyfweliadau â chleientiaid. Mae’r profiadau hyn wedi’i helpu i lunio ei gyrfa.

Yn ei blwyddyn gyntaf, dechreuodd Mari wrth ennill y trydydd safle yng Nghystadleuaeth Cyfweld â Chleient Prifysgol Abertawe, cafodd ei henwi’r myfyriwr blwyddyn gyntaf a gyflawnodd y safle uchaf, ac yn ogystal, enillodd y gystadleuaeth dadlau mewn ffug lys barn ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf.

Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i ennill yr Uwch-gystadleuaeth Fewnol Dadlau mewn Ffug Lys Barn, a daeth yn ail yng Nghystadleuaeth Traethawd Future Legal Mind ar gyfer myfyrwyr ledled y Deyrnas Unedig. Roedd ei thraethawd yn ymdrin â mynediad i’r awyr agored, gan gymharu â’r awdurdodaeth yn yr Alban a thrafod sut y gellid gwella cyfraith Cymru a Lloegr.

Yn ystod ei blwyddyn olaf, cafodd Mari ei dewis gan Brifysgol Abertawe fel yr ymgeisydd ar gyfer Gwobr yr Arglwydd Neuberger gan Anrhydeddus Gymdeithas Lincoln’s Inn, sef gwobr a roddir i brifysgolion nad ydynt yn rhan o Grŵp Russell, a dyfarnwyd yr ysgoloriaeth iddi.

Oherwydd lefel y gefnogaeth y teimlai Mari iddi ei derbyn gan ei darlithwyr yn y gyfraith, magodd y dewrder i wneud cais am dymor prawf, a bu’n llwyddiannus, gan adeiladu ymhellach ar ei rhestr o gyflawniadau yn Abertawe.

Tymor prawf yw cam olaf yr hyfforddiant i fod yn fargyfreithiwr, ac fel arfer fe’i cynhelir dros gyfnod o flwyddyn yng Nghymru a Lloegr, felly dyma’r cam olaf o hyfforddiant i Mari cyn iddi ddechrau ei gyrfa fel bargyfreithiwr cyflawn.

Wrth siarad am ei phrofiad o wneud cais am dymor prawf, dywedodd Mari:

“Mae’n heriol gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer dod yn fargyfreithiwr dan hyfforddiant, ac roedd hyn yn arbennig o wir yn ystod y pandemig gyda dim ond un lle ar gael yng Nghymru. Siaradais ag amrywiaeth o bobl yn adran y gyfraith er mwyn cael dealltwriaeth well o’r proffesiwn ac i amgyffred yn well yr hyn a ddisgwylir gan ymgeisydd yn ystod pob cam o’r broses. O ganlyniad, cynigiwyd tymor prawf i mi yn Siambrau 9 Plas y Parc yng Nghaerdydd, sy’n golygu y byddaf yn dechrau hyfforddiant ym mis Medi 2022.

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cyflawni’r hyn a weithiais mor galed ar ei gyfer; fodd bynnag, ni allai hyn fod wedi digwydd heb gefnogaeth ddiwyro gan staff adran y gyfraith trwy gydol fy amser ym Mhrifysgol Abertawe, yn enwedig Matthew Parry.”

Wrth sôn am gyflawniadau Mari, dywedodd y Darlithydd Matthew Parry:

“O’i hwythnos gyntaf yn Abertawe, dangosodd Mari angerdd dros ddatblygu ei sgiliau academaidd ac ymarferol. Ac ar ben hynny, nid oedd yn ofni holi cwestiynau anodd am y llwybr roedd yn ei geisio. Wrth holi’r cwestiynau hyn i mi a’m cydweithwyr, a dadansoddi’r atebion yn drylwyr, roedd yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus sydd wedi bod o fudd iddi. Mae pawb yn dymuno pob lwc iddi.”

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau israddedig, ôl-raddedig a phroffesiynol ar draws disgyblaeth y gyfraith. Ewch i’n gwefan i ddarganfod mwy.

Yn ogystal, gallwch ddarllen rhagor ar-lein am lwyddiannau ein myfyrwyr.

Rhannu'r stori