
Yn ddiweddar, gwnaeth Marzia, sy’n ymgyrchydd dros hawliau dynol a hawliau menywod, ymuno ag Ysgol y Gyfraith i rannu ei stori fel rhan o sgwrs arbennig a drefnwyd gan gynrychiolydd y myfyrwyr, Jenna Harrison, ac fe'i cadeiriwyd gan yr Athro Karen Morrow.
Bu'r sgwrs yn trafod hanes bywyd Marzia, o'i phrofiadau fel ceisiwr lloches Affganaidd i fod yn ymgyrchydd pwerus dros hawliau menywod ac yn wleidydd.
Daeth Marzia i'r DU yn wreiddiol gan y bu'n rhaid iddi ffoi o'i gwlad enedigol ar ôl cael ei thargedu gan y Taliban am greu sefydliad ar gyfer addysgu merched ym Mhacistan. Yn y gorffennol bu'n gweithio fel barnwr yn PuliKhumri Baghlan ac yn ogystal â hyn creodd sefydliad i fenywod o'r enw "Afghan Women Social and Cultural Organization" i rymuso menywod, yn ogystal â gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau a chyrff anllywodraethol tebyg .
Pan gyrhaeddodd Marzia y DU, nid oedd hi'n gallu siarad gair o Saesneg. Fel ceisiwr lloches, nid oedd caniatâd iddi wneud gwaith â thâl, ond ni rwystrodd hyn ei gwaith diflino fel gwirfoddolwr yn y gymuned. Ar ôl derbyn ei statws fel ffoadur, bu'n canolbwyntio ar wella ei Saesneg ac yn y diwedd cafodd ddinasyddiaeth Brydeinig.
Yn ystod ei haddysg yn y DU, cafodd Marzia wobr fel myfyriwr yng Ngholeg Oldham am wneud cyfraniad sylweddol i'r coleg a bywyd yn y gymuned. Yn ddiweddarach, enillodd Wobr Fusion Woman of the Year, a chafodd ei henwebu hefyd am Wobr Pride yn Oldham, y ddinas y mae bellach yn byw ynddi. Yn ddiweddar, mae wedi cyrraedd y rhestr fer am Wobr Menywod Northern Powerhouse fel mentor rhagorol.
O ganlyniad i waith diflino Marzia dros bobl ddifreintiedig, yn enwedig y rhai hynny yn y gymuned ffoaduriaid, mae hi wedi dod yn siaradwr, yn hyfforddwr ac yn arweinydd cynifer o brosiectau cymunedol yn y DU. Mae'n parhau i weithio yn y DU, ar ôl cael ei hethol yn ymgeisydd ar gyfer yr etholiadau lleol lle mae'n cynrychioli'r Blaid Lafur yn Ward Failsworth.
Derbyniodd ei sgwrs groeso cynnes, gyda sylwadau gan y gynulleidfa'n cynnwys:
"Cefais fy ysbrydoli’n fawr gan eich stori a'ch geiriau". "Diolch yn fawr iawn am roi'r cyfle i ni wrando ar eich stori". "Rydych chi'n fenyw gref ac yn ysbrydoliaeth fawr."