Mae prosiect newydd cyffrous, a ariennir gan Grant Ymchwil Frontier UKRI, wedi cael ei lansio yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton a bydd yn para tan 2027.Mae'r prosiect am archwilio effaith ffugiadau dwfn ar ymddiriedaeth mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr o ran prosesau atebolrwydd am droseddau yn erbyn hawliau dynol.

Ar draws y byd, mae miliynau o luniau a fideos sy'n dangos troseddau torfol yn erbyn hawliau dynol yn cael eu creu a byddant yn parhau i gael eu creu a'u rhannu ar-lein. Mae systemau cyfreithiol eisoes wedi dechrau defnyddio'r cynnwys hwn wrth erlyn y rhai sy'n gyfrifol.

Ar yr un pryd, mae'r cyhoedd yn wynebu mwy a mwy o enghreifftiau o ffugiadau dwfn: delweddau, fideos neu recordiadau sain hynod realistig a grëwyd gan ddefnyddio technoleg dysgu peirianyddol, sy'n debygol o ddatblygu'n fwyfwy soffistigedig ac anodd eu canfod wrth i'r dechnoleg wella.

Mae llawer wedi mynegi pryderon y bydd y cynnydd mewn ffugiadau dwfn yn arwain at ddrwgdybiaeth ar raddfa fawr o dystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, a bydd hyn yn ei dro'n arwain at ostwng ei gwerth mewn achosion cyfreithiol. Efallai bod hyn y wir, ond nid oes astudiaeth wedi profi'r rhagdybiaeth honno eto.

Dyma ble mae'r Prosiect TRUE yn dod i mewn. Bydd yn archwilio mewn ffordd empirig effaith ffugiadau dwfn ar ymddiriedaeth mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr o safbwynt rhyngddisgyblaethol unigryw, gan gynnwys y gyfraith, seicoleg ac ieithyddiaeth.

Bydd yr Athro Yvonne McDermott Rees a Dr Alice Liefgreen yn cynnal TRUE yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, gyda chymorth gan dîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr, staff cymorth ac ymchwilwyr cysylltiedig.

Mae Yvonne yn Athro'r Gyfraith ac yn arbenigwr mewn gwybodaeth a thystiolaeth ffynhonnell agored. Cyn sefydlu TRUE, roedd Yvonne yn Brif Ymchwilydd ar OSR4Rights, prosiect a ariennir gan yr ESRC a wnaeth archwilio sut mae ymchwil ffynhonnell agored wedi trawsnewid y tirlun canfod ffeithiau ar hawliau dynol.

Mae Alice, sy’n seicolegydd arbrofol, yn Gymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol ar y prosiect. Cyn gweithio ar TRUE, roedd hi'n gymrawd ymchwil ôl-ddoethurol yn UCL, Prifysgol Reading a Sefydliad y Rhyngrwyd Rhydychen. Mae ymchwil Alice yn canolbwyntio ar archwilio sylfeini seicolegol barn a phrosesau penderfynu dynol yn wyneb ansicrwydd, yn bennaf mewn parthau cyfreithiol-ymchwiliol.

Meddai'r Athro Yvonne McDermott Rees wrth lansio prosiect TRUE:

"Mae Alice a minnau'n falch o gael lansio prosiect TRUE, sydd yn bosib drwy gyllid hael gan UKRI [rhif grant EP/X016021/1]. Ni allai'r cwestiynau ymchwil rydym am eu hateb fod yn fwy dybryd, gan fod miloedd o ddarnau o dystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr am droseddau yn erbyn hawliau dynol yn cael eu postio'n ddyddiol ledled y byd ac mae cyfreithwyr ac eiriolwyr yn ymdrechu i ddefnyddio'r cynnwys hwn wrth geisio cyfiawnder. Mae TRUE yn ymuno â phrosiectau blaenllaw eraill Prifysgol Abertawe sy'n arwain y ffordd o ran ymchwil i’r gyfraith a thechnoleg, gan gynnwys CYTREC a Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru .”

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Brosiect TRUE drwy fynd i wefan y prosiect.

Rhannu'r stori