Mae gan Brifysgol Abertawe gysylltiadau agos â sawl cwmni cyfreithiol rhyngwladol blaenllaw. Un o'r rhain yw HFW; sef cwmni cyfreithiol byd-eang sy'n cyflogi dros 600 o gyfreithwyr yng nghyfandiroedd America, Ewrop, y Dwyrain Canol, Asia ac Awstralia.

Mae HFW yn arbenigo yn y sectorau awyrofod, nwyddau, adeiladu, ynni, yswiriant a llongau. Gan gydnabod y rôl amlwg y mae Abertawe'n ei chwarae wrth addysgu'r genhedlaeth newydd o gyfreithwyr masnachol a morwrol, sefydlodd HFW sawl gwobr i fyfyrwyr LLM Abertawe chwe blynedd yn ôl.

Yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22, enillwyr gwobrau HFW oedd:

  • Omkar Joshi (Gwobr HFW Prize mewn Cyfraith y Morlys);
  • Ece Birinci (Gwobr HFW mewn Cyfraith Olew a Nwy), a
  • Chimaobi Umezuruike (Gwobr HFW mewn Cludo Nwyddau).

Gweithiodd Omkar yn y sector llongau ac mae'n feistr cymwysedig. Aeth i Brifysgol Abertawe gyda'r bwriad o symud i waith ar y tir, ac mae eisoes wedi denu sylw sawl cyflogwr.

Mae gan Ece brofiad yn y sector cyfreithiol a bu’n gweithio fel cyfreithiwr mewn cwmni cyfreithiol adnabyddus yn Nhwrci cyn dod i Abertawe.

Graddiodd Chimaobi o Brifysgol Nigeria ac mae wedi gweithio fel ymchwilydd ac ym maes ymarfer cyn dod i Abertawe. 

Cyflwynwyd y gwobrau gan Richard Neylon, sy’n bartner yn HFW a raddiodd o Brifysgol Abertawe ei hun, mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn Llundain.

Llongyfarchodd y myfyrwyr am eu llwyddiant a mynegodd bleser am y ffaith bod graddau LLM Abertawe yn arwain at enw da yn fyd-eang. Roedd cyn-fyfyriwr arall o Abertawe, Florian Shacker, sy'n gydymaith yn HFW, hefyd yn bresennol yn y seremoni wobrwyo.  

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, gwnaeth yr Athro Soyer, a aeth gyda'r myfyrwyr, ynghyd â Dr Kurtz-Shefford a’r Athro Tettenborn, longyfarch pob myfyriwr a enillodd wobr a mynegodd ddiolchgarwch Prifysgol Abertawe i gwmni HFW am ei gefnogaeth barhaus i raddau LLM Abertawe.

Pwysleisiodd yr Athro Soyer hefyd fod cwrs LLM Abertawe wedi parhau i ehangu yn ystod y blynyddoedd diwethaf nid yn unig o ran ehangder cwmpas ond hefyd o ran nifer y myfyrwyr sy'n cyflwyno cais i astudio cwrs ôl-raddedig yn Abertawe. Dyma deyrnged i'r staff sy'n ymroddedig i wella profiad myfyrwyr a chyfoeth eu gwybodaeth mewn gwahanol agweddau ar gyfraith fasnachol a morwrol.  

Rhannu'r stori