Mae Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) Ysgol y Gyfraith Abertawe yn ymfalchïo yn ei berthnasoedd hirhoedlog a chynhyrchiol yn sector y gyfraith fasnachol a morwrol.

Mae'r cysylltiadau hyn yn sicrhau bod addysg myfyrwyr yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gyfoes, yn ogystal â rhoi cyfleoedd amhrisiadwy iddynt ymgymryd yn uniongyrchol ag ymarfer.

Eleni, derbyniodd Edmundo Deville Del Aguila Wobr Ince am y marc cyffredinol uchaf yn Rhan 1 y cwrs LLM. Mae Edmundo yn hanu o Beriw ac mae wedi gweithio ym maes ymarfer cyfreithiol ers sawl blwyddyn cyn ymuno ag Abertawe.

Derbyniodd Edmundo ei wobr gan gyd-bartner rheoli Ince, Michael Volikas. Roedd y wobr yn cynnwys gwobr ariannol o £500 ac interniaeth am wythnos gyda'r cwmni.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Soyer, Cyfarwyddwr yr IISTL:

"Rydym yn falch iawn o gamp Edmundo, yn enwedig gan ei fod yn cystadlu yn erbyn carfan mor gref eleni. Mae ef wir yn haeddu'r wobr, ac rydym yn sicr y bydd y profiad gwaith yn amhrisiadwy iddo. Fel bob amser, rydym yn ddiolchgar i Ince am eu cefnogaeth a'u haelioni. Mae'n bleser mawr gennym fod yn gysylltiedig ag un o'r cwmnïau cyfreithiol rhyngwladol mwyaf sy'n gweithredu yn y maes."

Rhannu'r stori